Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yr AddunedSampl

The Vow

DYDD 3 O 6

Yr Adduned o Ymlid


MaeRyanaAshiayn gariadon yn yr Ysgol Uwchradd Ar ôl tair mlynedd o ganlyn fe briodon nhw o'r diwedd, prin bum mis cyn sgwennu defosiwn heddiw am ymlid y naill a'r llall!


Ryan:


Y peth cyntaf fu raid imi ddysgu o fod yn briod oedd bod ymlid ddim yn dod i ben wrth yr allor. Ro'n i wastad wedi dweud, wrth dyfu i fyny, na faswn i fyth yn un a fyddai'n gaeth i weithio a byth yn treulio amser gyda'i deulu. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor hawdd oedd disgyn i mewn i'r trap hwnnw. Wythnosau'n unig i mewn i'n priodas roedd rhaid imi ddysgu i beidio dod â'm rhwystredigaethau gwaith, rhestrau o beth i'w wneud, a'm cyfrifiadur hyd yn oed, adre. Dw i wedi dechrau gweddïo ar fy ffordd adre am help Duw i'm arafu a ac yn fwriadol symud fy meddwl a'm calon o'm gwaith i fy ngwraig. Dydy cymysgu'r wraig a gwaith ddim yn gweithio. Mae'n llawer rhy hawdd i ddweud wrthot ti dy hun, "Bydd fy ngwraig i yma bob amser. Dw i angen rhoi mwy o amser i waith nawr fel y gallaf i ei mwynhau nes ymlaen." Ond, yr hyn wyt ti'n ei drysori a'i ymlid nawr, dyna ble byddi di'n ei gyrraedd nes ymlaen. Dysgodd Iesu i ni yn Mathew, pennod 6, adnod 21, "Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di." Mae'r Adduned o Ymlid yn ymwneud â gwybod ble mae dy drysor di a byth rhoi'r gorau i'r chwilio amdano.


Ashia


I Ryan a fi daeth ryw atebolrwydd annatod i gadw ein calonnau ar y llwybr o ymlid Duw, yn ddi-ddiwedd. Dŷn ni'n herio ein gilydd yn gyson i dyfu yn ein cariad a'n angerdd am Dduw a'i air. O ganlyniad, mae fy awydd i ymlid Ryan yn cynyddu. Ar yr un pryd, gwelaf ei galon yn agored gyda gofal ac angerdd tuag ataf i. Mae'r adduned hon i ymlid Duw, yna ein gilydd, wedi gwneud canlyn yn well a'n priodas yn gryfach.


Swnio'n berffaith yn tydi? Wel, mae hi wedi cymryd ond ychydig fisoedd o briodas i sylweddoli ein bod yn syrthio'n brin o'r ddelfryd hon. Dw i'n cael fy hun yn ceisio edrych ar ôl fy hun, yn unig. Mae'r mynd nôl ac ymlaen yma'n gallu bod yn niweidiol a di-ddiwedd nes mod i'n cofio i ymlid Duw gyntaf. Imi gael esbonio, pan dw i'n ymlid Duw, mae e wedyn yn creu awydd ynddo i wasanaethu ac ymlid Ryan. A phan rwy'n trystio Duw a Ryan, dw i'n sylweddoli fy anghenion wedi'u diwallu. Mae'n fath o ymlid ochr yn ochr. I aralleirio geiriau'r Apostol Paul o Philipiaid, pennod 1, adnod 27, mae Ryan a di'n sefyll yn gadarn mewn un Ysbryd, gydag un meddwl yn ymdrechu ochr yn ochr am ffydd yr efengyl. Sut mae'r holl ymlid yma'n gweithio mor dda? Oherwydd fe wnaeth Duw ein ymlid ni gyntaf.


Trefna rywbeth:Os wyt ti'n briod trefna ddêt, cinio, neu hyd yn oed dim ond sgwrs i ailgynnau ymlid. Os nad wyt ti'n briod, sgwenna ar bapur beth hoffet ti i ymlid Duw a'ch gilydd i fod yn debyg iddo yn y briodas.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

The Vow

Yn y Cynllun Beibl Life.Church hwn mae chwe cwpl yn sgwennu am chwe adduned priodas wnaethon nhw ddim eu dweud yn swyddogol wrth yr allor. Yr addunedau hyn o baratoi, blaenoriaeth, ymlid, partneriaeth, purdeb a gweddi yw...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd