Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yr AddunedSampl

The Vow

DYDD 1 O 6

Yr Adduned o Baratoi


Dros y chwech diwrnod nesaf byddi'n clywed gan chwech cwpl sydd wedi gwneud eu haddewidion priodas - ond nid yr addunedau safonol. Yr addunedau hyn o baratoi, blaenoriaeth, ymlid, partneriaeth, purdeb a gweddi yw'r addunedau sy'n gwneud i briodasau weithio ymhell heibio'r briodas ei hun.


DoeddTyleraBeth ddim yn barod i gwrdd ei gilydd drwy negeseuon testun, ond roedden nhw'n barod i briodi. Pan wnaethon nhw gwrdd am y tro cyntaf, roedd y gweddill yn hen hanes!


Beth:


Pan fydd dwy galon yn uno, mae'n beth hyfryd - ond nid yw wastad yn bert. Mae perthynas iachus angen onestrwydd, hyd yn oed am dy boenau. Roedd fy mhoenau i fel creithiau emosiynol o briodas flaenorol. Roedd fy nhryst wedi'i ddryllio a'm hofnau wedi chwyddo fel bagiau aer. Eto, yn Eseia, pennod 43, adnod 19 dwedodd i beidio meddwl am beth ddigwyddodd o'r blaen ond i sylweddoli ei fod yn gwneud rhywbeth newydd. Synhwyrais fod gan Dduw rywbeth newydd ar fy nghyfer i hefyd. Felly, penderfynais fod yn fwriadol yn fy mharatoi.


Gweddïais, darllenais Air Duw'n gyson, Gwrandewais ar ffrindiau doeth, ymwelais â chynghorydd, "bv

Tyler:


Ro'n i wedi bod yn gweddïo am fy narpar wraig ers pan ro'n i'n fy arddegau. Dros y blynyddoedd teimlais fod Duw wedi rhoi geiriau arbennig imi ffocysu arnyn nhw: "bwriadol", "amynedd", a "sefydlogrwydd."


Pan gwrddais Beth, gwyddwn ar unwaith mai hi oedd yr un ro'n i wedi bod yn gweddïo amdani. Roedd hi wastad yn onest am sut roedd hi'n teimlo a beth roedd hi'n stryglo hefo, oedd yn help mawr imi fod, adnod yn onest am fy mhoenau fy hun o'r gorffennol. Bydden ni'n atgoffa ein hunain am y gwirionedd yn Salm 147, adnod 3 bod Duw'n trwsio'r toredig. Wrth i ni ganlyn roedden ni'n cadw mewn cof y tri gair roddodd Duw imi. Roedden ni'n caru ein gilydd yn fwriadol, amyneddgar, ac yn sefydlog.


Mae'n anhygoel i ddwyn i gof sut wnaeth Duw ein paratoi, nid yn unig ar gyfer priodi, ond ar gyfer ein gilydd. A do, ges i'r ferch ro'n i wedi bod yn gweddïo amdani, ond daliais ati i weddïo achos dydy paratoi ddim yn darfod wrth yr allor. Dw i'n gweddïo y bydd Duw'n dal ati i'n paratoi a'n ail ffurfio ar gyfer popeth newydd mae'n ei wneud.


Gwylia negeseuon >The Vow.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

The Vow

Yn y Cynllun Beibl Life.Church hwn mae chwe cwpl yn sgwennu am chwe adduned priodas wnaethon nhw ddim eu dweud yn swyddogol wrth yr allor. Yr addunedau hyn o baratoi, blaenoriaeth, ymlid, partneriaeth, purdeb a gweddi yw...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd