Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yr AddunedSampl

The Vow

DYDD 5 O 6

Yr Adduned o Burdeb


Pan wnaethJamesgwrddMandygwyddai ar unwaith mai hi oedd yr un. Doedd Mandy ddim mor siŵr. Ond, trodd blynyddoedd o gyfeillgarwch yn briodas hyfryd. Flwyddyn i mwn i'r briodas mae nhw'n ystyried purdeb, un o'u hymrwymiadau pwysicaf.


Mandy:


Cefais fy magu o gwmpas yr eglwys, felly pan o'n i'n blentyn roedd fy holl ffrindiau'n siarad am burdeb. Roedd modrwyau purdeb yn boblogaidd dros ben. Ro'n i'n tybio mai peidio cael perthynas efo bachgen. I fi, roedd hynny'n golygu dim cusanu, nac unrhyw beth arall, nes mod i wedi priodi. Dw i'n meddwl fod lot o pobl yn meddwl fel hyn. Mae'r cyfan yn troi o gwmpas peidio gwneud dim byd corfforol. Ers hynny dw i wedi dysgu ei fod yn llawer mwy na hynny. Mae purdeb yn ymwneud â'r galon.


Mae purdeb yn llawer llai am beidio gwneud rhywbeth, ac yn gymaint mwy am wneud rhywbeth. Pan oedd James a fi'n canlyn, yn hytrach na osgoi rywbeth, fe wnaethon ni geisio Duw'n gyntaf. Pan wyt ti'n ceisio Duw'n gyntaf, gyda'th holl galon, mae e'n dy helpu i aros yn bur. Nawr ein bod yn briod, dŷn ni dal yn bur. Ond, dydy hynny ddim yn golygu ein bod yn ymatal! Wna i fyth anghofio un amser ar ein mis mêl. Yn llawn emosiwn, sylweddolais mor sanctaidd yw priodas. Edrychais ar James, a dweud, "Dw i'n deall nawr, fwy nag erioed o'r blaen. Roedd dewis purdeb mor werth chweil." Felly, hyd yn oed os wyt ti wedi gwneud camgymeriadau, fe elli di ddal dewis purdeb gan mai ceisio Crist a'th holl galon yw purdeb. Dw i'n addo iti - mae'n werth chweil!


James

sut o'n i'n

Yn wahanol i Mandy ches i mo'n magu o gwmpas yr eglwys. Roedd purdeb yn sialens fawr. Yn ystod fy arddegau roedd gen i agwedd afiach at fenywod ac roedd gen i berthynas dinistriol gyda phornograffi. Ar ôl graddio fe wnes i roi fy mywyd i Grist. Gwyddwn mod i eisiau priodi rhywun oedd yn dilyn Iesu'n ffyddlon. Gwyddwn hefyd bod ennyn merch felly'n golygu bod angen imi ddilyn Iesu yn ffyddlon hefyd. Felly, fe wnes i newid y dewisiadau ar fy ffôn ar gyfer gwefannau ro'n i angen ar gyfer y gwaith yn unig. Hefyd, roedd gen i ffrind agos oedd yn holi
sut ro'n i'n dod yn fy mlaen. Roedd brawddeg ddwedodd fy ngweinidog, Craig Groeschel yn addas iawn, "Pam gwrthsefyll temtasiwn yfory, y gelli di ei ddileu heddiw?" Flwyddyn i mewn i'n priodas mae Mandy a fi'n sylweddoli fod yr adduned o burdeb run mor bwysig heddiw ag oedd e cyn i ni gwrdd. Ac fel ddwedodd Mandy, mae e'n werth chweil.


Dweda wrth rywun:Os wyt ti'n stryglo gyda phurdeb, os wyt ti'n briod a'i peidio, heddiw yw dy ddiwrnod i fod yn agored gyda phobl rwyt yn eu caru a'u parchu. Mae cywilydd yn tyfu'n y tywyllwch, ond rwyt wedi dy ollwng yn rhydd gan oleuni'r byd!


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

The Vow

Yn y Cynllun Beibl Life.Church hwn mae chwe cwpl yn sgwennu am chwe adduned priodas wnaethon nhw ddim eu dweud yn swyddogol wrth yr allor. Yr addunedau hyn o baratoi, blaenoriaeth, ymlid, partneriaeth, purdeb a gweddi yw...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd