Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Diolchgarwch y Cynhaeaf Trwy'r Flwyddyn!Sampl

Harvest Thanksgiving All Year Round!

DYDD 7 O 7

BYDD YN DDIOLCHGAR AM Y PETHAU BACH

Dwedodd rhywun wrthyf unwaith â’i dafod yn ei foch, ‘os yw’n costio mwy na phunt, diolcha!” Wrth imi ysgrifennu’r defosiwn hwn, allai ddim llai meddwl am yr ysgrythur yn I Thesaloniaid 5:18.

“Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol mae ein Harglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni”

Mae hyd yn oed punt yn gallu bod yn bunnoedd. Yn eironig, yn aml, y pethau bychain dŷn ni'n eu trysori fwyaf.



• Meddylia am y plentyn bach hwnnw a fyddai'n rhoi tusw o ddant y llew i ti gyda'r wen fwyaf wrth i ti ddiolch iddo/iddi!
• Meddylia am y nodyn wedi'i argraffu â llaw y daethost o hyd iddo wedi'i guddio mewn drôr gan rywun annwyl a oedd wedi marw ers hynny.
• Meddylia am y dieithryn hwnnw a stopiodd i roi help i ti ar hyd y ffordd.
• Beth am yr alwad annisgwyl honno gan ffrind doeddet ti ddim wedi clywed ganddo ers blynyddoedd?
• Yr hygs yn y bore gan dy blentyn neu wyres, neu briod.
• Y bawen ar dy fraich gan anifail anwes sydd eisiau dy sylw.

Wrth gwrs, dim ond ychydig atgofion oedd y rhain i dy gael i gofio pethau bach sy'n golygu llawer i ti. Os nad ydy person yn cymryd gofal o’r hen gar hwnnw, wedi’i roi mewn amser o angen, mae’n debygol na fydd yn gofalu am y car newydd sbon hwnnw mewn blynyddoedd i ddod.



“Os gellir eich trystio chi gyda phethau bach, gellir eich trystio chi gyda phethau mawr. Ond os ydych chi'n twyllo gyda phethau bach, sut mae eich trystio chi gyda phethau mawr?” Luc 16:10

Dw i wedi meddwl yn aml a yw Duw yn ein profi ag ychydig i weld pa mor ddiolchgar ydyn ni. Mae'n mynd â ni yn ôl i ddiwrnod cyntaf yr astudiaeth hon. Cofia’r fam ostyngedig yn Affrica a gasglodd ei phlant at ei gilydd i ganu caneuon o lawenydd? Trwy ein llygaid ni, ychydig sydd ganddyn nhw; eto yn eu golwg, wnaethon nhw deimlo bendithion yr hyn sydd ganddyn nhw, ac yn llawenhau. Maen nhw wedi dysgu cynaeafu diolchgarwch trwy gydol y flwyddyn! Gawn ni ddysgu o'u hesiampl; nhw!



YMARFER HEDDIW:


• Cymra amser i esbonio’n glir pam fod y pethau bach sydd gen ti yn golygu llawer i ti.


• Cofia ei bod yn cymryd llawer o bethau bach i wneud pethau mwy: mae'r hoelion yr un mor hanfodol â'r coed sy'n adeiladu'r tŷ!


• Po fwyaf y byddi’n diolch i Dduw ac eraill, yr hawsaf y daw.


• Pwrpas ‘Gynaeafu Diolchgarwch trwy’r flwyddyn Hir!”


Os wyt wedi mwynhau'r defosiwn hwn, dw i’n dy annog iti chwilio yn dy borwr You Version am Eternity Matters With Norma, a bydd defosiynau eraill sydd wedi’u sgwennu gan Norma yn ymddangos.


Mae'r awdur a gweithiau eraill i'w gweld yn http://facebook.com/eternitymatterswithnorma.


Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Harvest Thanksgiving All Year Round!

Dw i'n rhyfeddu at y gwersi y gallwn eu dysgu o ddiwylliannau eraill! Mae'n ymddangos bod gan rai lai yn faterol, ac eto maen nhw’n amlygu ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch a llawenydd! Wn i ddim amdanat ti, ond dw i eisiau...

More

Diolch i Eternity Matters With Norma am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.facebook.com/eternitymatterswithnorma

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd