Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Diolchgarwch y Cynhaeaf Trwy'r Flwyddyn!Sampl

Harvest Thanksgiving All Year Round!

DYDD 5 O 7

MAWRYGU DUW GYDA DIOLCHGARWCH!

Sut ydyn ni’n gogoneddu Duw gydag ein diolchgarwch? Mae yna sawl ffordd i ddangos ein diolchgarwch i Dduw am bopeth yw e, a phopeth y mae'n ei wneud.


• Ufudd-dod: Dw i’n cael fy atgoffa yn ei Air fod 'ufudd-dod' yn well nag aberth. I Samuel 15:22 Pan fyddwn ni'n ufuddhau ac yn byw yn ôl ei Air, dŷn ni'n diolch i Dduw yn ddiddiwedd am ein ffordd o fyw!
• Moli gyda ein cegau: "Dw i'n mynd i ganu cân o fawl i Dduw; a'i ganmol a diolch iddo." Salm 69:30
•Tynerwch:"Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd fel mae Duw wedi maddau i chi drwy beth wnaeth y Meseia." Effesiaid 4:32
• Gweddi:" Peidiwch byth â stopio gorfoleddu! Daliwch ati i weddïo. Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy'ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy'n perthyn i'r Meseia Iesu." 1 Thesaloniaid 5:16-18
• Haelioni:"Dylai pob un ohonoch chi roi o'i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi. Mae Duw'n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi!" 2 Corinthiaid 9:7

Meddylia am yr awgrymiadau hyn i ysgogi diolchgarwch a llawenydd o'th fewn!


Dw 'n hoffi meddwl am wasanaethu Duw yn gyfan gwbl â'r gyffelybiaeth o bobi swp o fisgedi gyda sglodion siocled. Os ydw i ar frys, falle y bydda i’n trio cyflymu'r broses; falle defnyddio tymheredd uwch na'r hyn y mae'r rysáit yn ei nodi. Mae'n bosibl y bydd galwad ffôn yn tynnu fy sylw a bydda i’n anghofio rhoi'r soda pobi a'r powdr pobi yn y gymysgedd sych. Neu falle gwneud y penderfyniad anghywir i ddefnyddio hen sglodion siocled.


Dw i ddim yn meddwl y byddet ti’n teimlo fy niolch a chariad drwy gynnig bisgedi wedi'u gwneud yn y modd hwn i ti. Felly, hefyd gyda'r Arglwydd. Fel pobi, dŷn ni'n cymryd ein hamser, yn gohirio pethau eraill, ac yn defnyddio'r cynhwysion gorau a mwyaf ffres posibl. Mae'r rhan fwyaf o ddynion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u caru pan fyddan nhw’n arogli'r bisgedi hynny ac, yn well eto, pan fyddan nhw’n cael ychydig ar blât i'w blasu.


Mae Duw yn disgwyl i ni nesáu ato bob dydd, i ddangos i ni ein cariad trwy ddiolchgarwch!


YMARFER HEDDIW:


• Defnyddia’r rhestr hon neu datblyga dy restr dy hun am ffyrdd i fawrygu’r Arglwydd.


• Braf yw dod i ŵydd y Creawdwr; dechreua roi'r meddwl hwn yn dy ysbryd!


• Paid â rhoi Duw yn olaf yn dy drefn ddyddiol.


• Cynhyrfa ddiolchgarwch yn ddwfn o’th fewn.


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Harvest Thanksgiving All Year Round!

Dw i'n rhyfeddu at y gwersi y gallwn eu dysgu o ddiwylliannau eraill! Mae'n ymddangos bod gan rai lai yn faterol, ac eto maen nhw’n amlygu ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch a llawenydd! Wn i ddim amdanat ti, ond dw i eisiau...

More

Diolch i Eternity Matters With Norma am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.facebook.com/eternitymatterswithnorma

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd