Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Diolchgarwch y Cynhaeaf Trwy'r Flwyddyn!Sampl

Harvest Thanksgiving All Year Round!

DYDD 2 O 7

YDY DY ENAID YN NEIDIO MEWN LLAWENYDD?

"Mae'r ARGLWYDD yn rhoi nerth i mi; mae e'n darian i'm hamddiffyn. Dw i'n ei drystio fe'n llwyr. Psalm 28:7

Yn union fel y mae'r ffermwr yn trystio daw glaw a'r maint iawn o haul i wneud i'w gnydau dyfu, dylem ninnau, fel credinwyr a dilynwyr Crist, drystio ynddo e! Mae ysgrythur heddiw yn dweud wrthym o ble y daw ein cryfder. Mae'n dod oddi wrth yr Arglwydd, ac mae ei lawenydd yn rhoi'r nerth i ni gwrdd â'r heriau sy'n dod bob dydd.



Yn yr astudiaeth ddoe, wnaethon ni glywed am ddynes yr oedd ei llawenydd yn pelydru o'r tu mewn, ac allan o'r llawenydd hwnnw, dechreuodd hi a'i phlant ganu! Yn ein hamgylchiadau o anobaith, heb wybod a oes digon o arian i dalu’r biliau, neu pan roddir diagnosis gwael i rywun annwyl, oes gennym ni ddigon o ffydd yn yr Arglwydd i drystio ynddo trwy ein hamgylchiadau a chodi cân o fawl?



Yn union fel dŷn ni’n bwyta sawl gwaith y dydd i roi maeth i’r corff, mae angen inni fwydo ein henaid bob dydd ar Air Duw, ac mewn gweddi i allu trystio’n ddwfn honno.



Bum mlynedd yn ôl, clywodd fy ngŵr a minnau y diagnosis difrifol nad oedd dim byd arall y gellid ei wneud yn feddygol i achub ei fywyd. Mehefin 22, 2017 oedd y dyddiad hwnnw. Tyfodd y tiwmor ar ei oesoffagws a'i galon. Collodd Dan ei allu i fwyta, yfed, a llyncu. Wnaeth e gyfarfod â’r Arglwydd prin ddeufis yn ddiweddarach. Allai Dan bellach cael maeth i’w gorff, ond roedd ei enaid wedi storio maeth ysbrydol i'w gario trwy'r dyddiau hynny.


Galluogodd ei gryfder mewnol a ddarparwyd gan yr Ysbryd Glân iddo barhau i ymweld â chyfarfod clo a chanu caneuon efengyl i fywiogi eu dydd!



Daw amser mewn bywyd pan dŷn ni naill ai’n trystio ynddo’n gyfan gwbl neu’n sylweddoli nad oedd ein ffydd yr hyn roedden ni’n meddwl ydoedd. Dŷn ni naill ai'n “derbyn neu gau’n ceg.” Ydy, mae hwn yn ddywediad anghwrtais, ond yn sicr mae'n gyrru'r pwynt adref. Mae gynnon ni ormod o Gristnogion yn cynhesu seddau eglwys sydd heb gryfder mewnol y 6 diwrnod arall! Maen nhw’n siarad y sgwrs ond dydyn nhw ddim yn cerdded y daith. Dim ond pan fyddwn ni'n dysgu trystio yn Nuw ym “mhob peth” y bydd diolchgarwch a llawenydd yn ymledu o'r tu mewn!



YMARFER HEDDIW:


· Meithrin diolchgarwch bob awr.


· Bod â phwrpas i gynnau cân o’th fewn.


· Os wnest ti fwydo dy gorff heddiw, mae angen iti fwydo dy enaid.


· Mae’n amser i dderbyn neu gau dy geg.


Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Harvest Thanksgiving All Year Round!

Dw i'n rhyfeddu at y gwersi y gallwn eu dysgu o ddiwylliannau eraill! Mae'n ymddangos bod gan rai lai yn faterol, ac eto maen nhw’n amlygu ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch a llawenydd! Wn i ddim amdanat ti, ond dw i eisiau...

More

Diolch i Eternity Matters With Norma am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.facebook.com/eternitymatterswithnorma

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd