Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Diolchgarwch y Cynhaeaf Trwy'r Flwyddyn!Sampl

Harvest Thanksgiving All Year Round!

DYDD 1 O 7

GWREIDDIAU I DDECHRAU CYNHAEAF!

Yn 2020, ymwelodd fy merch a’i gŵr â Grumeti, Affrica, lle gawson nhw’r fraint o weld teulu yn y pentref. Gwnaeth y teulu hwn eu cartref o fwd a brigau yn gwt glaswelltog. Roedd mam y teulu hwn wedi gwneud siglen i'w phlant o ffyn. Paratôdd bryd ei theulu gan fynd ar ei phengliniau ar y pridd. Casglodd hefyd ei phlant, a oedd yn canu ac yn dal dwylo, at ei gilydd gan gynnwys eu gwesteion nad oedden nhw erioed wedi cwrdd â nhw o'r blaen fel pe baen nhw’n deulu. Roedd y teulu cyfan yn pelydru llawenydd ac agwedd o ddiolchgarwch fel pe baen nhw’n berchen ar y byd!



Rwy’n rhannu’r cyfarfyddiad hwn â thi oherwydd mae’n ffordd wych o ddechrau sylweddoli nad yw diolchgarwch a llawenydd yn dibynnu ar amgylchiadau ond ar yr hyn sydd yn ein calonnau a sut dŷn ni’n dirnad pethau. Dim ond eu ffordd o fyw oedd y teulu hwn yn ei wybod ac roedd yn fodlon ac yn hapus gyda'r hyn oedd ganddyn nhw.


Mae llawer ohonom ledled y byd yn mwynhau cyfleusterau modern a'r diweddaraf mewn technoleg. Mae gynn0on ni 3 phryd bob dydd gyda byrbrydau rhyngddyn nhw, ond ychydig sydd wedi dysgu bod yn fodlon.


Allan o ddyfnder ein bodolaeth, dŷn ni naill ai'n mynd yn gwynfanllyd ac yn achwyn gan weld y gwydr yn hanner gwag, neu dŷn ni'n dod yn debyg i'r teulu bach hwn yn Affrica sy'n gweld yr hyn sydd ganddyn nhw gyda diolchgarwch dwfn!


”Dych chi wedi derbyn y Meseia Iesu fel eich Arglwydd, felly daliwch ati i fyw yn ufudd iddo - 7 Cadwch eich gwreiddiau'n ddwfn ynddo, eich bywyd wedi'i adeiladu arno, eich hyder ynddo yn gadarn fel y cawsoch eich dysgu, a'ch bywydau yn gorlifo o ddiolch.” Colosiaid 2:6-7

Pan fyddwn wedi ein gwreiddio'n ddwfn yng Nghrist ac yn defnyddio'r ffydd sy'n dod gyda'r sylfaen hon, mae'r ysgrythur yn dweud wrthon ni ddangos ein diolchgarwch yn ddiddiwedd! Amlwg iawn yw gwneud hynny i ormodedd, yn ein helaethrwydd.



YMARFER HEDDIW:


· Gofynna i ti dy hun pryd oedd y tro diwethaf i ti deimlo'n werthfawrogol.



· Gofynna i ti dy hun pa mor aml wyt ti’n dangos llawenydd a diolchgarwch i eraill.


· Dechreua ddiolch i'r Arglwydd am yr holl fendithion niferus rwyt ti’n eu mwynhau!



· Gad i ni ddangos diolchgarwch yn ddiddiwedd!


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Harvest Thanksgiving All Year Round!

Dw i'n rhyfeddu at y gwersi y gallwn eu dysgu o ddiwylliannau eraill! Mae'n ymddangos bod gan rai lai yn faterol, ac eto maen nhw’n amlygu ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch a llawenydd! Wn i ddim amdanat ti, ond dw i eisiau...

More

Diolch i Eternity Matters With Norma am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.facebook.com/eternitymatterswithnorma

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd