Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Diolchgarwch y Cynhaeaf Trwy'r Flwyddyn!Sampl

Harvest Thanksgiving All Year Round!

DYDD 6 O 7

PAID BOD Â CHYWILYDD I BLYGU PEN

Ces i fy hyfforddi fel plentyn i stopio cyn bwyta, plygu fy mhen, a diolch i Dduw am fy mwyd. Hyd heddiw, 77 mlynedd yn ddiweddarach, hyd yn oed mewn bwyty, rwy'n plygu fy mhen mewn diolchgarwch.


Fall mod i’n anghywir, ond dw i’n teimlo bod hyn wedi'i golli gan lawer heddiw. Dw i ddim yn bod yn feirniadol; dim ond trio rhannu'r hyn dw i’n sylwi arno heddiw. Mae fy nghalon yn llonni pan dw i’n gweld eraill yn diolch i Dduw heb gywilydd am yr hyn dŷn ni wedi’i dderbyn. Un o'r rhesymau pam nad yw'r arfer yn cael ei ddathlu cymaint ag yn y gorffennol yw bod pobl bellach mor brysur fel mai anaml y mae teuluoedd yn bwyta gyda'i gilydd.


Fe'n rhybuddiodd Timotheus yn ddiweddarach am athrawon a fydd yn gwthio eu hathrawiaeth a'u rheolau ar y bobl. Mae'r adnod flaenorol yn dweud y bydd rhai yn dysgu ymatal rhag rhai bwydydd a rhag priodi ." Ac mae popeth mae Duw wedi'i greu yn dda! Felly dylen ni dderbyn y cwbl yn ddiolchgar. Mae Duw wedi dweud ei fod yn iawn i'w fwyta a dylen ni ddiolch amdano mewn gweddi. " 1 Timotheus 4:4-5

Pan oedd Iesu'n bwydo'r dyrfa, y peth cyntaf a wnaeth oedd codi'r pum torth o fara a'r ddau bysgodyn tua'r nef a rhoi diolch i Dduw cyn iddo eu torri. Gwnaeth hyn eto pan borthodd y torfeydd saith torth a physgod.

Mae cymryd yr amser a defnyddio cyfle arall i ddangos ein diolchgarwch i'r Arglwydd yn helpu i dyfu ysbryd diolchgar.

Nid fy mod yn disgwyl diolch gan bobl pan fyddaf yn gwneud pethau neis iddyn nhw, ond os nad ydyn nhw byth yn cymryd yr amser i ddangos eu gwerthfawrogiad, tybed a ydyn nhw’n gwerthfawrogi'r fendith. Felly hefyd mae hi gyda Duw; bydded iddo byth amau ein diolchgarwch.


Pan dw i’n sgwennu am weddïo dros ein bwyd yn gyhoeddus, sylweddola nad perfformiad yw hwn. Er ei fod yn gweinidogaethu i eraill sy'n gweld pobl yn plygu eu pennau cyn bwyta, dydy e ddim am ddweud diolch am ein bwyd yn uchel gan dynnu sylw atom ni ein hunain.


Falle y bydd y rhai sy’n ein gweld yn meddwl ein bod ni'n radical neu'n wallgof, ond fe allai gyffroi eu heneidiau. Mae'n ddoniol sut y gallwn fynd i ysgol uwchradd, coleg, neu gêm bêl droed a sgrechian ein pennau i ffwrdd, ond oherwydd nad ydyn ni’n ymuno codi embaras i'n hunain, dŷn ni’n cilio rhag diolch i Dduw'r Bydysawd am y fendith dŷn ni wedi’i gael.



YMARFER HEDDIW:


• Os nad wyt ti wedi gweddïo cyn bwyta ers amser maith, dechreua heddiw. Pam? Oherwydd nid yn unig y mae'n cynhyrfu calon Duw, ond bydd yn tyfu dy ddiolchgarwch!


• Dechreua gartref. Dechreua ar dy ben dy hun ac ymestyn allan i weddïo gyda’th deulu.


• Ymhen amser, byddi di eisiau plygu'ch pen yn y bwyty!


• Os wyt ti’n ymddwyn yn wallgof mewn gêm bêl, fe elli di i fod ychydig yn wallgof dros Dduw!


Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Harvest Thanksgiving All Year Round!

Dw i'n rhyfeddu at y gwersi y gallwn eu dysgu o ddiwylliannau eraill! Mae'n ymddangos bod gan rai lai yn faterol, ac eto maen nhw’n amlygu ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch a llawenydd! Wn i ddim amdanat ti, ond dw i eisiau...

More

Diolch i Eternity Matters With Norma am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.facebook.com/eternitymatterswithnorma

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd