Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 6 O 30

Dy ysbryd yw rhan uchaf dy berson mewnol a’th enaid yw’r rhan isaf. Yr ysbryd yw'r egwyddor bywyd a roddir i ddyn gan Dduw, a dyma'r rhan ohonot sy'n canfod ac yn amgyffred pethau tragwyddol. Fyddet ti fyth yn cerdded trwy ffydd ac nid wrth weld pe na bai gennyt ysbryd. Cafodd dy ysbryd ei wneud i gerdded trwy ffydd a’th enaid yn unig sydd â’r gallu i gerdded trwy weld.



Dwedodd Martin Luther, “Yr ysbryd yw y rhan uchaf a mwyaf pendefigaidd o ddyn sydd yn ei gymhwyso i ddal gafael ar bethau annealladwy, tragwyddol, anweledig."



Sylfaen dy bersonoliaeth yw dy enaid, dy deimladau, chwantau, hoffter a’th gasbethau. Yn syml. Dy enaid yw man geni’r sbectrwm cyfan o emosiwn dynol. Pan mae’r Beibl yn cyfeirio at dy enaid, mae’n cyfeirio at yr hyn sy’n dylanwadu ar dy ymatebion emosiynol i fywyd.



Yn Luc, pennod 12, dwedodd Iesu stori am ffermwr cyfoethog oedd yn hynod lwyddiannus a chynhyrchiol. Pan nad oedd gan y ffermwr llewyrchus ddigon o le i storio ei gnydau, am fod y cynhaeaf mor helaeth, penderfynodd ddymchwel ei ysguboriau anaddas ac adeiladu rhai mwy a drudfawr Roedd y dyn mor hunanol o falch o’i lwyddiant fel ei fod wedi siarad â’i enaid a dweud, “Mae gen i ddigon i bara am flynyddoedd lawer. Dw i'n mynd i ymlacio a mwynhau fy hun yn bwyta ac yn yfed” (adn. 19).



Clywodd Duw gynlluniau’r dyn hunanol ac roedd yn hynod o drist o’i benderfyniad i fyw bywyd o gynhyrchu materol, heb feddwl ddwywaith am dragwyddoldeb. Roedd gan yr amaethwr, oedd ai enaid wedi ei lenwi â llawenydd, ac ysguboriau wedi eu llenwi â digonedd, ysbryd gwag a marw.



Mae llawer o Gristnogion gwneud yr un camgymeriad fel ein ffermwr cefnog yn y ddameg gan Iesu. Dŷn ni’n llenwi’n enaid yn gyson, ond yn dogni maeth yr ysbryd. Os byddi’n treulio dy fywyd yn canolbwyntio ar bleserau daearol, a chwantau emosiynol, yna bydd dy enaid yn tyfu allan o reolaeth. Caniatâ imi ofyn cwestiwn hynod o briodol ac amlwg i ti wrth i ni ddelio â'n hemosiynau allan o reolaeth, Pa un yw'r rhan iachach a chryfach ohonot ti? Dy enaid? Neu dy ysbryd? I bob Cristion, yr ateb amlwg ac angerddol ddylai fod, "Fy ysbryd!"
Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy dd...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd