Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 7 O 30

Os mai dy ddymuniad yw datblygu ysbryd cryf, yna mae'n rhaid i chi ei fwydo â deiet iach sy'n llawn fitaminau. Rhaid iti ddarllen dy Feibl bob dydd i gryfhau cyhyrau ac i gynyddu dygnwch dy ysbryd. Dŷn ni’n darllen y Beibl yn bennaf nid er gwybodaeth ond ar gyfer trawsnewid ac mae'r pŵer gwyrthiol a geir yn y Gair yn fitamin rhyfeddol sy'n sefydlu iechyd yn dy ysbryd bob dydd o'th fywyd.

Mae cymaint o bobl yn defnyddio esgusodion pam nad ydyn nhw’n gallu darllen eu Beiblau o ddydd i ddydd. Y prif un yw, “Dw i ddim yn ei ddeall. Mae fel geiriau gwag ar dudalen ii” Gad imi dy annog heddiw os mai dyna yw dy reswm; dalia ati i ddarllen! Bydd Duw yn cwrdd â ti yna pa un a yw dy feddwl yn lapio ei hun o amgylch y Gwirionedd tragwyddol a geir yn y Gair ai peidio. Hyd yn oed os nad yw dy feddwl yn "ei gael" ... mae dy ysbryd yn ei yfed a’i lyncu!



Bydd dy ddewis i fwydo maetholion iach i dy ysbryd yn ei gadw'n gryf ac yn gadarn hyd yn oed pan fydd dy enaid allan o reolaeth. Mae darllen dy Feibl yn rheolaidd yn bennaf ymhlith yr arferion y mae angen iti eu sefydlu'n ysbrydol er mwyn bod yn berson iach a bywiog yn emosiynol.
Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy dd...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd