Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 5 O 30

Mae dy emosiynau’n teithio 80,000 gwaith yn gyflymach na dy feddyliau. Onid yw hynny’n anhygoel? Mae'r un darn hwn o wybodaeth anhygoel yn ein helpu i ddeall pan fydd rhywbeth drwg yn digwydd, dŷn ni'n teimlo emosiynau amrwd a dichellgar, ond allwn ni ddim cofio ar unwaith beth i'w wneud na phwy i'w ffonio. I’r gwrthwyneb, mae hefyd yn wir pan fydd rhywbeth rhyfeddol yn digwydd a ninnau wedi ymgolli mewn gwefr emosiynol, ac ar yr eiliad honno hefyd, nid oes gennym y gallu gwybyddol i benderfynu beth yn union i'w wneud nesaf. Mae pob meddwl rhesymol ac ymarferol yn cyrraedd calon ein hymwybyddiaeth ymhell ar ôl i'r emosiwn ddod i’r wyneb.



Mae cyflymder aruthrol ein hymatebion emosiynol i fywyd yn helpu i egluro pam, hyd yn oed Cristnogion, yn aml yn tueddu i weithredu allan o deimladau yn hytrach nag allan o egwyddor. Mae angen i rywbeth - neu rywun – reoli dy emosiynau sy'n teithio'n gyflym a'u gorfodi i ymostwng i'r ffrwyth sydd i'w gael yn yr Ysbryd Glân yn unig. Os byddi'n parhau i ganiatáu i'th emosiynau dy lusgo’n gyflym drwy fywyd, byddi bob amser yn dweud pethau sy'n achosi embaras, yn ymddwyn mewn ffyrdd sy'n ddi-fudd, a byth yn berson y bwriadodd Duw iti fod. Yn y pen draw byddi’n cael effaith ffrwydrad folcanig cyflym sy'n difetha pawb yn ei lwybr treisgar, blin.



Does fawr ddim yn dy fywyd sy’n bwysicach na sicrhau rheolaeth dros faterion dy galon.



Pan ddefnyddir y gair "calon", yn enwedig yn yr Hen Destament, mae'n cyfeirio at enaid rhywun neu fan geni'r synhwyrau, emosiynau a serchiadau. Dy galon sy'n penderfynu sut y byddi di'n gweithredu mewn unrhyw sefyllfa a dyma sedd dy ewyllys a'th bwrpas mewn bywyd. Mae'r Beibl yn dweud i "warchod" neu i "wylio dros" y rhan honno o'th fywyd gyda'r sylw mwyaf posib.



Mae gan Dduw ofal mawr o’th galon a dylai gael ei drin fel trysor gwerthfawr.



Mae’r broblem gyda’r galon ei hun: dydy dy galon ddim eisiau ei hamddiffyn. Mae’n dymuno mynegi ei holl deimladau’n uchel. Mae dy galon yn angerddol am awyru, chwydu a lleisio pob teimlad bach y mae erioed wedi'i brofi. Nid yw'r Beibl byth yn dweud ein bod ni'n cael mynegi popeth sydd yn ein calon - mae'n dweud yn syml i'w warchod.
Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy dd...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd