Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 9 O 30

Roedd Esther yn blentyn amddifad oedd wedi’i magu gan hen lanc sef Yncl Mordecai. Pan benderfynodd y Brenin Ahasferus ei fod am gael gwraig newydd, cynhaliodd ei oruchwylwyr y pasiant mwyaf mewn hanes a gofnodwyd.



Enillodd Esther y gystadleuaeth harddwch ac ennill ffafr pawb yn y palas.



Pan wrthododd Ewythr Mordecai ymgrymu i Haman, un o brif gynghorwyr y brenin, penderfynwyd nid yn unig y byddai Mordecai yn cael ei ladd, ond cafodd Haman ganiatâd gan y brenin i ladd y genedl Iddewig gyfan. Pan glywodd Mordecai am y cynllun erchyll hwn, rhwygodd ei ddillad, gwisgo sachliain a lludw, a mynd allan i ganol y ddinas, ac wylo’n uchel ac yn chwerw.



Falle y bydd ymateb Mordecai i amgylchiadau erchyll yn adleisio dy ymateb i ddigwyddiadau dy fywyd. Pan na fyddi'n cael dy ffordd, rwyt yn dilyn esiampl Mordecai, yn gwisgo dillad galaru ac yna'n cwyno a chwyno mor uchel ac angerddol nes bod y ddinas gyfan yn dy glywed!

Os byddi di'n hunanol ac yn blentynnaidd yn dewis cerdded trwy fywyd wrth wisgo sachliain a lludw, byddi’n gwadu agosatrwydd i Frenin yr holl frenhinoedd! O ... rwyt ti'n dal yn Gristion a byddi'n dal i dreulio tragwyddoldeb gydag Iesu, fodd bynnag, bydd dy ddiddordeb yn dy boen yn gwadu melyster cymdeithas annwyl i ti, tra ar y ddaear.



Dŷn ni’n credu ar gam, os byddwn ni’n gweiddi ddigon uchel mewn poen, byddwn yn mynnu cynulleidfa gyda Duw. I'r gwrthwyneb, gwir gyfrinair ei bresenoldeb yw diolchgarwch!



Pan glywodd y Frenhines Esther am y parti yr oedd ei Yncl Mordecai yn ei gynnal o flaen pyrth y brenin, anfonodd ddillad newydd at Mordecai ond gwrthododd eu gwisgo. Mae’r Ysbryd Glân wedi rhoi cwpwrdd llawn dillad newydd i ni hefyd eu gwisgo, ond yn aml dŷn ni’n gwrthod cofleidio gwisg mawl, ac yn hytrach yn dewis gorymdeithio trwy fywyd yng ngwisg poen. Mae Brenin yr holl frenhinoedd yn gwybod mai ei bresenoldeb e yw lle byw buddugol i ti ac mae'r drws yn cael ei daflu’n llydan agored i ti fynd i mewn iddo. Yn anffodus, fedri di ddim cerdded i mewn i gynteddoedd mewnol ri balas wrth wisgo yn siom eich amgylchiadau.



Gwisga ddillad moli! Yn hytrach na gwingo mewn poen emosiynol ... coda dy ddwylo i’r awyr a chana dy hun i mewn i’w bresenoldeb!
Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy dd...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd