Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 30 O 30

Er gwaethaf pa bynnag frwydr emosiynol rwyt ti’n ei wynebu a’i brwydro ar hyn o bryd, pan wyt yn plymio i mewn i Air Duw a grym yr Ysbryd Glân, rwyt yn manteisio ar ddoethineb Gair Duw a nerth yr Ysbryd Glân, rwyt ti'n sicr o ennill pa bynnag frwydr y doi di ar ei thraws. Nid wyt bellach yn ddioddefwr dicter emosiynol dieflig a llaid ond rwyt yn fwy na choncwerwr oherwydd cariad mawr Crist tuag atat ti.



Mae gan Dduw gynllun ar gyfer dy fywyd bob dydd ac mae Ei gynllun yn un o lawenydd, heddwch a buddugoliaeth. Mae Duw wirioneddol angen i ti goncro dy broblemau emosiynol oherwydd rwyt yn rhan mor bwysig o’i gynllun mawreddog ar y pwynt hanesyddol hwn. Os byddi’n parhau i ymdrybaeddu mewn diflastod, mewn dicter, ac mewn iselder, bydd y byd yn colli allan ar y rhodd y bwriadwyd ti ar ei gyfer. Rhaid i ti byth â meddwl mai dim ond rhif wyt ti i Dduw ac y gelli di ddianc rhag dangos dy siom ac ofn mewn ffordd hollol anghymesur. Nid wyt yn un o luoedd y ddynoliaeth yn unig, ond rwyt yn adnodd gwerthfawr sy'n gallu dod â newid sylweddol ar yr eiliad hanesyddol hon.



Wyt ti’n bwriadu bod y gorau posib? Neu a fyddi di'n gysgod gwarthus o ddynoliaeth sy'n gwyro'n emosiynol oddi wrth gynllun Duw ar gyfer ei fywyd? Mae duw dy angen! Mae angen i ti fod yn ddarlun byw o lawenydd a heddwch pan mae dy fyd yn chwalu o'th gwmpas. Mae e angen i ti fod yn gampwaith hardd o gyfiawnder ac amynedd mewn diwylliant sydd wedi mynd yn wyllt. Mae angen dynion a merched ar Dduw ym mhob cenhedlaeth a fydd yn datgan, "Nid yw fy mywyd yn ymwneud â mi a'm teimladau. Mae fy mywyd yn ymwneud â gwasanaethu Duw a datgelu ei gymeriad i'm byd!”



A fyddi di’n cael dy gofio am gân dy galon neu sgrech dy fywyd? Byddwn i gid yn gadael etifeddiaeth fydd yn cael ei benderfynu gan ein dewisiadau emosiynol dyddiol. Mae'r etifeddiaeth emosiynol ac ysbrydol y byddi di’n dewis gwaddoli'r cenedlaethau’r dyfodol yn bwysicach na'r cyllid, y tai neu'r tiroedd rwyt ti'n eu gadael ar dy ôl. Wrth i ti edrych ar yr amrywiaeth emosiynol y mae dy ddiwylliant, dy dreftadaeth, a dy amgylchiadau yn ei gynnig am sylwedd dy fywyd, paid byth ag anghofio fod Duw’n rhoi ei orau i’r rhai sy’n gadael y dewis iddo e!
Diwrnod 29

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy dd...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd