Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 1 O 30

Darlleniad: Jeremeia 1:1-3 Pwy oedd Jeremeia? Dros y pythefnos nesa ʼda ni am edrych ar Jeremeia. Roedd Jeremeia yn broffwyd ac yn negesydd oddi wrth Dduw i bobl Jwda. Dechreuodd broffwydo tua 600 mlynedd cyn Crist, ac fel mae o’i hun yn dweud yn y darlleniad roedd o wedi proffwydo yn ystod teyrnasiad tri brenin gwahanol. Roedd y brenin Joseia yn ddyn eitha da, ond wedyn roedd ei ddau fab wnaeth ei ddilyn yn llawer gwaeth. Roedd Jeremeia yn dal i broffwydo pan gafodd gwlad Jwda a’i phrifddinas Jerwsalem eu concro a’u caethiwo gan fyddin Babilon. Yn yr adnodau cyntaf yma mae Jeremeia yn dweud pwy ydi o, o ba lwyth mae o’n dod ag o ble mae o’n dod. Os ydych chi’n dallt Hebraeg byddwch chi wedi sylweddoli un peth weird am enw Jeremeia ... ond os da chi’n normal a ddim yn dallt Hebraeg gadewch i fi esbonio. Mae’r enw Jeremeia yn swnio’n debyg iawn i’r Hebraeg am ‘taflu i lawr’, neu ‘Duw yn taflu’. A dyna’n union be da ni’n weld yn digwydd yn y llyfr yma. Mae Duw yn gyntaf yn taflu Jeremeia i mewn i fyd gelyniaethus, i rannu neges amhoblogaidd. Yna’n ail, yn y neges ei hun da ni’n gweld Duw yn taflu ei bobl i lawr ac yn eu barnu nhw. Roedd Duw wedi siarad hefo Jeremeia trwy gydol ei fywyd, ac mae Duw yn siarad hefo ni heddiw hefyd. Tybed be mae Duw yn ceisio’i ddweud wrthyt ti? Gall fod yn defnyddio pethau sydd ar dy feddwl, neu bethau mae pobl eraill yn eu dweud, neu eiriau’r Beibl i siarad hefo ti rwan. Wyt ti’n gwrando? Gwilym Jeffs
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd