Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 3 O 30

Darlleniad: Jeremeia 4:3-4 Stâd calon pobl. Mae meddwl am ddicter Duw (y syniad fod Duw wedi digio) yn beth brawychus. Cymer funud i ddechrau i ddiolch i Dduw am aberth Iesu Grist ar y groes. Cymerodd Iesu y gosb am ein pechodau ni fel ein bod ni’n gallu bod mewn perthynas iawn gyda Duw! Dyma ddechrau’r neges roddodd Duw i bobl Jwda drwy Jeremeia. Mae’n dweud bod eu calonnau nhw yr un fath a tir sych, caled. Roedd eu hagwedd nhw at Dduw yn drewi. Mae’n dweud wrthyn nhw, os na fyddan nhw’n newid ei ffyrdd yna byddai dicter a nerth Duw yn dod yn eu herbyn. Byddai Duw yn eu cosbi nhw. Yr unig ffordd i’r bobl yma gael eu hachub fyddai drwy iddyn nhw roi eu hunain yn llwyr i Dduw, peidio dal dim yn ôl a peidio codi unrhyw rwystr. Beth ydy dy agwedd di tuag at Dduw? Sut mae’n edrych? Wyt ti’n atgoffa dy hun yn aml o be wnaeth Iesu drosot ti? Wrth i ni feddwl am gariad Iesu aton ni, beth allwn ni ei wneud mewn ymateb ond rhoi ein hunain yn llwyr iddo fo mewn diolch?! Pa rwystrau sydd yn dy fywyd di heddiw sy’n dy atal di rhag rhoi dy hun yn llwyr i Iesu? Gwilym Jeffs
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd