Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 6 O 30

Darlleniad: Jeremeia 8:18-22 Tristwch Jeremeia am wlad Jwda Wyt ti erioed wedi bod mor drist nes dy fod ti’n teimlo’n sal? Yma mae Jeremeia yn galaru dros ei bobl, dros ei wlad. Mae’n teimlo mor drist am nad yn ydnhw’n agos at Dduw. Mae Jeremeia yn dipyn bach o ‘legend’ oherwydd mae o’n dangos i ni yn union sut mae o’n teimlo. Dydy o ddim yn trio bod yn ffansi na cuddio ei rwystredigaeth na’i dristwch oddi wrthon ni. Dyma fo, ar ôl bod yn proffwydo i’w bobl, yn crïo drostyn nhw. Mae o’n edrych ar y bobl yma, y bobl mae Duw yn eu caru, ac yn galaru am y ffaith ei bod nhw’n diodde. Mae’n torri ei galon wrth eu gweld nhw’n chwilio am Dduw yn y llefydd anghywir (neu yn chwilio am y Duw anghywir!) Mae o’n teimlo mor angerddol (‘passionate’) am hyn i gyd nes ei fod o wedi dechrau teimlo’n sâl hyd yn oed. Mae o’n anobeithio, ac yn gofyn y cwestiwn, ‘Pwy sydd am achub ei bobl? Ble mae’r meddyg i’w gwella nhw?’ Diolch i Dduw ei fod o wedi anfon y meddyg gorau, sef Iesu, i’n hachub ni pan oedden ni wedi’n torri, ar goll ag yn brifo. Roedd Jeremeia yn caru ei wlad a’i bobl. Sut wyt ti’n teimlo wrth feddwl am Gymru? Dyma ein pobl ni, yn chwilio am Dduw yn y llefydd anghywir ac yn addoli pob math o dduwiau eraill – partis mawr, yfed, bod yn boblogaidd ac edrych yn cŵl. Wyt ti’n galaru ar eu rhan? Wyt ti’n rhannu hefo nhw y ffaith fod yna un, sef Iesu, all eu hachub a chynnig y bywyd gorau? Gwilym Jeffs
Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd