Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 9 O 30

Darlleniad: Jeremeia 10:23-24 Gweddi Jeremeia Onid ydi o’n brofiad horrible cael dy gywiro gan athro neu riant neu ffrind? Cofia eu bod nhw’n gwneud hyn am ei bod nhw eisiau’r gorau i ti, ag eisiau i ti ddysgu. Er ei fod o’n galed ar y pryd, mae’r Beibl yn dweud fod Duw yn cywiro ac yn disgyblu’r rhai mae o’n eu caru. (Hebreaid 12:5-13) Good old Jeremeia – dyma fo eto yn bod yn hollol onest. Mae o’n cydnabod yma just pa mor chwit chwat ydan ni’n gallu bod fel pobl. A rydyn ni hefyd mor fach o’i gymharu â’r ffordd mae’r bydysawd enfawr yn gweithio. Mae Jeremeia’n cyfaddef fod angen cywiro arnon ni, a dydy o ddim yn rhy falch i ofyn i Dduw am help (adn.23). Yn y weddi yma hefyd mae Jeremeia’n cyffesu mor bwerus ydi Duw. Mae o’n dallt yn iawn fod gan Dduw y nerth i gael gwared â phobl yn llwyr os ydi o eisiau. Roedd o’n sylweddoli mor fach oedd o o flaen y Duw hollalluog, ac bod angen i ni fod yn barod i Dduw ein newid ni. Felly beth amdanat ti? Beth am ddod o flaen Duw yn ostyngiedig? Gofynna iddo ble wyt ti angen dy gywiro, a bydd yn barod i gael dy newid. Gwilym Jeffs
Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd