Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 5 O 30

Darlleniad: Jeremeia 7:1-15 Y celwydd mai crefydd mae Duw eisiau Ddoe roedden ni’n edrych ar y ffordd roedd pobl Jwda wedi troi cefn ar Dduw ac eto’n dal ymlaen i aberthu iddo fo allan o grefydd a thraddodiad. Yma mae Jeremeia yn dweud wrth y bobl unwaith eto nad ydi crefydd yn mynd i’w hachub nhw. Y broblem oedd, doedden nhw ddim yn gwrando! Mae’n dweud wrthyn nhw fod rhaid iddyn nhw wneud mwy na just mynd trwy’r sioe o ddilyn Duw ar rai dyddiau arbennig, a wedyn meddwl fod lladd a dwyn ac addoli duwiau eraill yn bethau iawn i’w gwneud ar y dyddiau eraill. Mae Duw yn galw ar ei bobl i droi yn ôl ato fo cyn iddo eu dinistrio nhw i gyd. Mae o’n dangos pa mor serious ydi’r bygythiad drwy ddweud y bydd yn chwalu’r deml, sef ei dŷ ei hun lle roedd o’n byw ymysg ei bobl. Ond roedd y deml hefyd wedi troi i fod y fan ble roedd ‘crefydd’ yn fwy pwysig na perthynas efo’r Duw byw. Oes yna beryg yn dy fywyd di weithiau dy fod ti’n gwneud ‘sioe’ o ddilyn Duw? Wyt ti’n wahanol efo dy ffrindiau (yn yr ysgol neu’r coleg) i fel wyt ti efo dy deulu a dy ffrindiau yn y capel? Cofia fod Duw yn gwybod – mae o’n gweld popeth. Pam ddim siarad efo fo am y peth heddiw? Gwilym Jeffs
Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd