Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yn ein lle: Defosiynau'r Grawys o Time of GraceSampl

In Our Place: Lenten Devotions

DYDD 4 O 14

Mae hi'n amser



Os ddoi di fyth i'm cartref, un o'r pethau cyntaf weli di yw bod gen i atyniad at glociau - yn fy 'stafell fyw'n unig mae yna chwech o glociau. Maen nhw i gyd yn fecanyddol; mae yna rywbeth am y tician sy'n lleddfu fy enaid i. Mae'n rhaid bod gen i ofn mewnol o fod yn hwyr. Falle fod yr holl glociau'n tawelu fy ofnau mod i'n mynd i fethu rywbeth pwysig.



Roedd Iesu'n gwybod pa amser oedd hi bob tro - amser i iachau, amser i addysgu, amser i geryddu, amser i encilio, amser i fynd i giniawau dathlu. Gadawodd ei dad iddo wybod pan oedd hi'n amser i farw. Dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion fod eu teithio, addysg genhadol, bron ar ben. "O hynny ymlaen dechreuodd Iesu esbonio i'w ddisgyblion fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn gwneud iddo ddiodde'n ofnadwy. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn" (Mathew, pennod 16, adnod 21). Roedd yn gwybod mai ei daith brenhinol i fewn i Jerwsalem ar Su;l y Palmwydd fyddai ei olaf.



Digwyddodd gwyrth fawr ymysg y palmwydd. Sylweddolodd torfeydd mai'r Meseia oedd y dyn gostyngedig ar yr asyn, cyflawniad dysgeidiaeth yr Hen Destament. Roedd eu hosanna'n dangos eu bod yn gwybod pa amser oedd hi - bod eu brenin yn dod i'w bywydau ac yn hawlio eu teyrngarwch.



Wyt ti'n gwybod pa amser yw hi? Mae hi'n amser Mae'n bryd ichi roi'r gorau i wyro, a hawlio, neu ail-hawlio popeth eto, Iesu Grist fel eich Arglwydd a'ch Brenin. Trwy ei Air, trwy sblash dŵr bedydd, trwy ei gorff a’i waed a roddir yn Swper yr Arglwydd, daw Iesu atat mor bersonol heddiw ag y gwnaeth yn ôl bryd hynny. Mae'r palmwydd yn dy alw di, addola e nawr.

Ysgrythur

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

In Our Place: Lenten Devotions

Bydd y cynllun hwn yn dy arwain drwy gyfnod y Grawys, sy'n ein tywys drwy storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle.

Hoffem ddiolch i Time of Grace Ministry am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.timeofgrace.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd