Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yn ein lle: Defosiynau'r Grawys o Time of GraceSampl

In Our Place: Lenten Devotions

DYDD 3 O 14

Bendigedig yw'r Arglwydd



Does run gwlad yn gwneud pasiant brenhinol gystal â Prydain. Am fod Elisabeth yr Ail wedi teyrnasu am gyfnod mor hir, dim ond y pobl hynaf all gofio'r coroni ym 1953, ond cyn bo hir bydd un arall. Bydd y brenin newydd yn cyrraedd mewn gorymdaith brenhinol, gan ddilyn n Stiward Uchel yr Arglwydd â choron aur solet St. Edward, ac yn ddiweddarach yn cael ei arwisgo gyda’r Gadwyn Euraidd (yn dyddio o A.D. 1189), y faneg frenhinol, y belen euraidd, a’r deyrnwialen euraidd.



Mor wahanol oedd gorymdaith brenhinol Iesu o Fynydd yr Olewydd i Jerwsalem. Ar asyn di-nod aeth e ar ei daith fyddai brin wedi'i godi uwchben y dorf. Ac eto fe wnaeth gymaint o'r dorf ei gydnabod fel rywun brenhinol fel bod llafargan wedi dechrau, "Mae'r Brenin sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!" (Luc, pennod 19, adnod 38). Y wisg oedd yn ei ddisgwyl e oedd hen glogyn Rhufeinig, roedd y deyrnwialen roddwyd yn gorsen eiddil, coron wedi'i gwneud o ddrain roddwyd ar ei ben.



Roedd y gwaed lifodd i lawr ei wyneb yn waed dyn a gwaed Duw. Yn hynny o beth mae ganddo'r pŵer i brynu ac achub. Fel dyn gall Crist ein cynrychioli yn llys Duw; fel Duw fe all gynrychioli byd cyfan pechaduriaid anghenus. Trwy ei glwyfau rydyn ni'n cael ein hiacháu.



Roedd y Mynydd yr Olewydd yn orymdaith coroni brenhinol bwysig arall. O'r union le hwnnw yr esgynnodd y Crist atgyfodedig i'r nefoedd. Bellach disodlir ei ostyngeiddrwydd â gogoniant; mae ei gynorthwywyr bellach ddeng mil o weithiau deng mil o angylion; mae ei bresenoldeb a'i Ysbryd yn llenwi'r bydysawd; mae'n rheoli popeth er budd ei frodyr a'i chwiorydd. Trwy ffydd, rydyn ni'n frenhinol hefyd. Brenhiniaeth nefol.

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

In Our Place: Lenten Devotions

Bydd y cynllun hwn yn dy arwain drwy gyfnod y Grawys, sy'n ein tywys drwy storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle.

Hoffem ddiolch i Time of Grace Ministry am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.timeofgrace.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd