Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yn ein lle: Defosiynau'r Grawys o Time of GraceSampl

In Our Place: Lenten Devotions

DYDD 1 O 14

Dydd Mercher Lludw

Efallai eich bod wedi gweld cydweithwyr yn dychwelyd o gwrdd addoli yn ystod yr wythnos gyda marciau llwyd ar eu wynebau. Mae rhai eglwysi Cristnogol, nid yn unig yn defnyddio'r term "Dydd Mercher Lludw" i nodi dechrau'r Grawys, ond hefyd yn llythrennol farcio wynebau'r addolwyr i'n hatgoffa o'n pechod, ein marwoldeb, a'r pris erchyll oedd raid ei dalu i gael gwared o'r ddau.

Os wyt yn marcio'r dalcen â lludw ai peidio, mae hi'n weddus ar hyn o bryd i ddod gerbron yr Arglwydd yn ostyngedig, ar dy liniau, gan gydnabod gymaint yw dy angen am Waredwr. Dwedodd Abraham unwaith"...dw i'n gwybod nad ydw i'n neb" (Genesis 18:27), a felly hefyd ninnau.

Wedi ein creu gan Dduw, yn byw ym myd Duw, yn byw dan gyfraith Duw, ac yn atebol i ddyfarniad Duw, dŷn ni mewn man tywyll. Mae ein DNA etifeddol yn ein gwneud yn euog yng ngolwg Duw hyd yn oed cyn ein geni, a dŷn ni'n awchu wrth ychwanegu i'r pentwr yn ddyddiol. Mae'r euogrwydd dŷn ni'n ei gario yn dod â dyfarniad Duw -- "i lwch y byddi'n dychwelyd." Ac yn waeth "Byddi'n mynd i uffern."

Ond mae cyfnod y Grawys yn dod â storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle. Fe yw Oen Duw sy'n cymryd arno'i hun pechodau'r byd. Fe yw Oen Duw sy'n cymryd arno'i hun dy bechod, euogrwydd, a condemniad. A lludw.

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

In Our Place: Lenten Devotions

Bydd y cynllun hwn yn dy arwain drwy gyfnod y Grawys, sy'n ein tywys drwy storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle.

Hoffem ddiolch i Time of Grace Ministry am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.timeofgrace.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd