Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yn ein lle: Defosiynau'r Grawys o Time of GraceSampl

In Our Place: Lenten Devotions

DYDD 9 O 14

Di-euog



Hawdd iawn yw dirmygu Phariseaid yng nghyfnod Iesu am eu twpdra a bychander meddwl, eu agwedd hunangyfiawn at eraill, a’u dallineb i’w pechod truenus eu hunain. Hawdd iawn yw gwatwar disgyblion Iesu fel ffyliaid hurt oedd gan amlaf yn camddeall cenhadaeth ac agenda Iesu. Hawdd iawn yw edrych o amgylch heddiw a gweld tystiolaeth ymhobman.



Wyt ti wedi gweld adlewyrchiad y gweithredwr drwg yn y drych?



Fe wnaeth y milwyr Rhufeinig groeshoelio Crist. Fe wnaeth y Cyngor Iddewig groeshoelio Crist. Croeshoeliwyd Crist gan y system gyfreithiol Rhufeinig, gan gynnwys y llywodraethwr Rhufeinig, Peilat. Fe wnaeth Eseia hefyd, a felly hefyd ninnau. “Cafodd ei ddirmygu a'i wrthod gan bobl; yn ddyn wnaeth ddiodde, yn gyfarwydd â phoen. Roedd pobl yn troi eu hwynebau i ffwrdd oddi wrtho; cafodd ei ddirmygu, a wnaethon ni mo'i werthfawrogi (Eseia, pennod 53, adnod 3).



Ar gyfer yr holl bobl hynny – ac ar ein cyfer ni – roed rhaid i Iesu gael ei eni i’r byd, i fyw’n berffaith, ac i farw’n ddi-euog. Ei aberth e sy’n daliad trwy waed droson ni. Ei farwolaeth sy’n galluogi Duwi ddweud ein bod yn “ddi-euog.”



Drwy ei glwyfau, a’i glwyfau e’n unig, cawn ein hiachau.

Ysgrythur

Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

In Our Place: Lenten Devotions

Bydd y cynllun hwn yn dy arwain drwy gyfnod y Grawys, sy'n ein tywys drwy storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle.

Hoffem ddiolch i Time of Grace Ministry am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.timeofgrace.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd