Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yn ein lle: Defosiynau'r Grawys o Time of GraceSampl

In Our Place: Lenten Devotions

DYDD 7 O 14

Gostyngeiddrwydd Mawreddog



Y storïau mae plant, mwy na thebyg, yn eu caru gyntaf yw'r rhai sy'n cynnwys ei bŵer. Mae e'n un sy'n creu gwyrthiau. Arglwydd y môr, meistr dros stormydd, concwerwr afiechydon, gorchfygwr cythreuliaid, yr un sy'n atgyfodi meirw, does dim na all e ei wneud. Mae e'n arch-arwr, mwy a gwell na Batman a Superman.



Ond wrth i ti fynd yn hŷn, rwyt yn dod i werthfawrogi Iesu fwy-fwy yn ei weithredoedd o wasanaeth gostyngedig. Mae un o'r storïau mwyaf pwerus yn dod ar nos Iau cablyd. Ychydig oriau cyn ei groeshoeliad, dysgodd i'w ddisgyblion wers gofiadwy am sut mae arweiniad caethwas yn edrych.



Gan blygu o flaen pob un, cymerodd fowlen o ddŵr a thywel a golchi eu traed. "“Ydych chi'n deall beth dw i wedi'i wneud i chi?” ...Felly, am fy mod i, eich Arglwydd a'ch Athro wedi golchi'ch traed chi, dylech chi olchi traed eich gilydd" (Ioan, pennod 13, adnod 12, 14).



Trwy wasanaeth a dioddefaint y gwnaeth Iesu ein rhyddhau. Ei enghraifft ef o wasanaeth gostyngedig sy'n llywio ac yn ysbrydoli ein hagwedd bob dydd. A fyddai'r bobl o'ch cwmpas yn dweud o leiaf peth o'r amser dych chi'n edrych ac yn swnio'n ystyfnig, yn falch, neu hyd yn oed yn drahaus? A ydych chi'n syrthio'n awtomatig i agenda sy'n cynnwys eich cysur, eich dymuniadau, eich pleserau?



Sut olwg sydd ar ostyngeiddrwydd golchi traed yn eich cartref? Gwnewch restr o dair enghraifft a'u gwneud heddiw.
Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

In Our Place: Lenten Devotions

Bydd y cynllun hwn yn dy arwain drwy gyfnod y Grawys, sy'n ein tywys drwy storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle.

Hoffem ddiolch i Time of Grace Ministry am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.timeofgrace.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd