Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

7 Peth mae'r Beibl yn ei ddweud am BryderSampl

7 Things The Bible Says About Anxiety

DYDD 7 O 7


Gall byw i'r foment fod yn anodd iawn. Mae byw er mwyn a mwynhau heddiw, beth sydd gynnon ni heddiw, a phwy sy'n rhannu'r profiad gyda ni heddiw yn anodd iawn. Mae cymaint i ddenu'n sylw, denu ein hamser, bwyso ar ein hegni meddyliol. Weithiau mae fel ei bod hi'n anodd i ganolbwyntio ar heddiw gan fod yfory fel petai ar ein gwarthau.


Dwedodd Iesu wrthym i wneud rywbeth radical - Dwedodd wrthym i beidio poeni am yfory. Mae'n dweud wrthym yn Mathew pennod 6, adnod 34 y bydd yn ein helpu i ddelio â helyntion heddiw yn unig - nid yfory, wythnos nesaf, neu mis nesaf.


Mae ambell diwrnod yn anoddach na'i gilydd. Mae'n hawdd iawn imi beidio poeni am yfory pan mae "yfory" i fod yn ddydd Sadwrn i ymlacio. Ond mae gymaint mwy anoddach pan mai "yfory" yw diwrnod y cyfarfod pwysig (neu apwyntiad deintydd!).


Os dŷn ni'n poeni am yfory a'r hyn fydd efallai yn mynd i ddigwydd, dŷn ni'n ceisio rheoli rhywbeth, sydd mewn gwirionedd, dan ei reolaeth Ef, ac nid ni. Os dŷn ni'n onest â'n hunain, does gynnon ni ddim syniad beth fydd yn digwydd yfory. dydyn ni ddim hyd yn oed yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd yn ddiweddarach heddiw! Fodd bynnag, gallwn adnabod yr un sy'n rheoli heddiw, ac yfory, ac am byth.


Neilltua amser heddiw i feddwl am hynny. Mwynha'r funud hon, y diwrnod hwn, gan wybod fod heddiw ac yfory yn nwylo Duw. Gad i'w heddwch roi ystyr i "heddiw"


Casey Case
Arweinydd Cynorthwyol YouVersion



Ysgrythur

Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

7 Things The Bible Says About Anxiety

Mae yna bosibilrwydd i sialensau newydd cymhleth mewn bywyd ein wynebu yn ddyddiol. Ond mae hi run mor debygol y bydd pob diwrnod yn rhoi cyfleoedd cynhyyrfus newydd i ni. Yn y defosiwn saith diwrnod hwn, mae aelodau o s...

More

Ysgrifennwyd a darparwyd y cynllun hwn gan dîm YouVersion. Dos i youversion.com am fwy o wybodaeth.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd