Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

7 Peth mae'r Beibl yn ei ddweud am BryderSampl

7 Things The Bible Says About Anxiety

DYDD 3 O 7


Does dim darogan ar effaith pryder. Un funud, mae popeth yn iawn. Wedyn, gall anhrefn emosiynol a meddyliol dy lethu. Rhaid anadlu'n ddwfn, cau'r llygaid ac ymarfer yr ymatebion corfforol tawelu rwyt wedi'i ddysgu i'w gwneud pan fydd pryder yn ymosod arnat ti. Ond nid yw pryder yn effeithio arnom yn gorfforol yn unig. Mae'n cymryd drosodd popeth.


Dyna pam mae'n rhaid i ni bartneru ein hymateb corfforol gyda gwirioneddau ysbrydol sy'n helpu i ailgyfeirio ein ffocws. Rhaid i'n meddyliau dawelu. Mae'r Beibl yn ein helpu i gywiro a thawelu ein calonnau.


I ddechrau, mae'n rhaid i ni arfogi ein hunain gyda'r Gair pan dŷn ni yn y cyflwr meddwl iawn, fel ein bod yn barod i wrthsefyll pan ddaw ymosodiad. Dysga ar dy gof adnodau y gelli eu defnyddio fel arfau pan ddaw tonau o bryder. Mae'r adnodau hynny yn ein hatgoffa am wirioneddau am Dduw a throi ein llygaid i ffwrdd o'r hyn sy'n ein harwain i lefydd tywyll.


Mae Eseia, pennod 12, adnod 2 yn dweud wrthon ni y gallwn ni drystio Duw i'n hachub, a pheidio bod ag ofn. Mor bwerus yw hynny. Does dim angen i ni ofni. Gallwn drystio Duw. Bydd yn ein hachub. Mae e'n Arglwydd. Mae'n teyrnasu dros bopeth, a gall ein hachub, waeth pa mor bell dŷn ni'n teimlo ein bod wedi mynd. Mae e yna.


Pan fyddwn yn llenwi ein meddyliau gyda datganiadau fel hyn, dŷn ni'n caniatâu i Dduw godi'r baich oddi ar ein calonnau a rhoi gorffwys i ni. Mae'r datganiadau hyn yn rhoi'r nerth i ni ennill y brwydrau sy'n ein llethu.


Ailadrodda'r datganiadau hyn nes dy fod yn teimlo fod y pryder wedi mynd heibio oherwydd mae ailadrodd gwirioneddau yn ein rhyddhau o gelwydd pryderon.


Mae Duw eisiau'r math yma o ddibyniaeth gennym. Does dim angen disgwyl am frwydr feddyliol dramatig i fyfyrio ar ei Air. Dw i'n credu pan fydd fy meddwl wedi'i ffocysu ar wirionedd y Gair, mae llai o bŵer gan y sbardunau hynny oedd, ar un tro, yn fy llethu (Rhufeiniaid 8:6).


Dos at Dduw drwy ei Air. Gad i hynny gymryd dy feddwl drosodd a thrwsio'r pryder sydd wedi setlo dan yr wyneb. dewisa roi iddo dy ofnau. Trystia ynddo fe i dy achub.


Jessica Penick
Rheolwr Cynnwys YouVersion


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

7 Things The Bible Says About Anxiety

Mae yna bosibilrwydd i sialensau newydd cymhleth mewn bywyd ein wynebu yn ddyddiol. Ond mae hi run mor debygol y bydd pob diwrnod yn rhoi cyfleoedd cynhyyrfus newydd i ni. Yn y defosiwn saith diwrnod hwn, mae aelodau o s...

More

Ysgrifennwyd a darparwyd y cynllun hwn gan dîm YouVersion. Dos i youversion.com am fwy o wybodaeth.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd