Gwybodaeth Cynllun
7 Peth mae'r Beibl yn ei ddweud am BryderSampl
Yn llyfr y Rhufeiniaid mae Paul yn dweud, yr eiliad y byddi'n derbyn Iesu fel Arglwydd a Gwaredwr, rwyt wedi dy fabbwysiadu fel un o deulu Duw, a bydd Ef yn dod yn Dad i ti. Dydy Duw ddim yn dad cyffredin. Mae dy dad daearol yn ddynol a phechadurus, sy'n golygu ei fod wedi dy siomi yn y gorffennol...a bydd yn dy siomi yn y dyfodol.
Mae Duw yn berrfaith a da. Fydd e byth yn dy siomi, Mae Seffaneia pennod 3, adnod 17 yn disgrifio cariad anhygoel dy Dad tuag atat: mae E gyda ti, fel arwr i dy achub, wrth ei fodd gyda ti! Mae Seffaneia hefyd yn dweud mai Duw yw dy amddiffynwr a'th gysurwr. "Bydd yn dy fwytho gyda'i gariad."
Mae Salm 139 yn dweud fod Duw wedi bod gyda ti ers i ti ddechrau tyfu yng nghroth dy fam, a bydd e gyda ti i ble bynnag y byddi'n mynd. Ti yw campwaith ei greadigaeth, a fe yw dy gefnogwr mwyaf wrth i ti ddarganfod a byw allan y cwbl y crëwyd ti ar ei gyfer.
Ystyria hyn: mae plentyn yn cysgu'n drwm yn ei wely tra bo storm yn tyfu a chynyddu wrth i'r noson fynd rhagddi. Mae'r fellten a chlec fawr y daran yn deffro a dychryn y plentyn o'i drwmgwsg, ac ar ôl sgrech am help mae tad cariadus yn rhuthro i mewn i'w gysuro. Yn union fel y rhiant hwnnw, mae Duw yna i ti bob tro. Yn ei gariad bydd yn tawelu dy holl ofnau.
Kylyn Hersack
Peiriannydd Android YouVersion
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae yna bosibilrwydd i sialensau newydd cymhleth mewn bywyd ein wynebu yn ddyddiol. Ond mae hi run mor debygol y bydd pob diwrnod yn rhoi cyfleoedd cynhyyrfus newydd i ni. Yn y defosiwn saith diwrnod hwn, mae aelodau o s...
More