Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

7 Peth mae'r Beibl yn ei ddweud am BryderSampl

7 Things The Bible Says About Anxiety

DYDD 1 O 7


Pa bynnag beth yw'r rheswm, os yn broblemau ariannol, perthynas dan straen, llwyth gwaith llethol, gall pryder sleifio i mewn i'n bywydau mewn sawl ffurf. Mae'n gallu bod yn deimlad o anfodlonrwydd cyffredinol drwy'r dydd, noson aflonydd heb ddim cwsg, neu'n ymosodiad llym o bryderu.


Fel Cristion yn delio hefo pryfder, un o'r pethau cyntaf rwyt yn debygol o'i deimlo yw euogrwydd.'Ddylwn i fod yn teimlo fel hyn os ydw i'n Gristion?' yw un o'r teimladau allai groesi dy feddwl amlaf. O'r Gair heddiw mae awdur Salm 55:22 yn dweud wrthon ni am roi ein beichiau i'r Arglwydd, a bydd ef yn gofalu amdanom.


Sylwa, dydy'r adnod ddim yn dweud y dylen bod gynnon ni ateb i bopeth. Dydy e ddim yn dweud na fyddwn i fyth yn pryderu. Yn hytrach, mae'n dweud, pan fydd gynnon ni feichiau, y dylen ni eu rhoi i'r Arglwydd.


Dyma'r newyddion da: rwyt ti eisioes ar dy ffordd i wneud hynny! Trwy ddarllen y cynllun Beibl hwn rwyt ti'n cydnabod na fedri di guro pryder ar dy ben dy hun, ond yn hytrach rwyt ti angen help dy Dad nefol. Beth bynnag yw dy amgylchiadau rwyt yn y lle gorau i fod - yn rhedeg tuag at Dduw.


Dyma fy sialens ar dy gyfer heddiw: cymer un cam arall tuag at rhoi dy feichiau i'r Arglwydd. Dyma rai syniadau:


  • Treulia munud heddiw yn dweud wrth Dduw am beth wyt ti'n pryderu.
  • Cofnoda sut wyt ti'n teimlo a'r effaith arnat.
  • Dos i siarad efo Crision o ffrind agos i am dy bryder.

Jordan Wiseman
Strategydd Cyfryngau YouVersion


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

7 Things The Bible Says About Anxiety

Mae yna bosibilrwydd i sialensau newydd cymhleth mewn bywyd ein wynebu yn ddyddiol. Ond mae hi run mor debygol y bydd pob diwrnod yn rhoi cyfleoedd cynhyyrfus newydd i ni. Yn y defosiwn saith diwrnod hwn, mae aelodau o s...

More

Ysgrifennwyd a darparwyd y cynllun hwn gan dîm YouVersion. Dos i youversion.com am fwy o wybodaeth.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd