Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Byw drwy'r Ysbryd: Defosiynau gyda John PiperSampl

Live By The Spirit: Devotions With John Piper

DYDD 7 O 7

Mae'r Ysbryd yn Codi ein Cyrff

"Ac os ydy Ysbryd yr Un gododd Iesu yn ôl yn fyw wedi dod i fyw ynoch chi, bydd e'n rhoi bywyd newydd i'ch cyrff marwol chi hefyd. Dyna mae'r Ysbryd Glân sydd wedi dod i fyw ynoch chi yn ei wneud" - Rhufeiniaid, pennod 8, adnod 11.


Mae dy gorff o dragwyddol bwys i Dduw. Os na fydde fe, bydde fe'n gadael iddo bydru'n y bedd a dweud wrthyt am ddweud, dyna gael gwared o'r diwedd. Ond dyw e byth yn dweud hynny. Na. Creodd Duw ti gyda chorff ac er ei ysblander.


Felly, mae e'n mynd i'w godi, a rhoi iddo fywyd i dy gorff meidrol drwy ei Ysbryd, er gwaethaf ei hagrwch, teneuwch, llawn clefyd, ac mae e'n mynd i'w wneud yn gryf, iach, mor hardd. fel pan welai e bydda i'n dweud, "Rwyt fel awyr las ar ddiwrnod heulog o had. Rwyt fel gogoniant miliwn o sêr yn nuwch y gofod. Mae dy ddisgleirdeb fel yr haul; ia, ynot ti dw i'n gweld mawredd ysblander Iesu Grist, yr un â'th wnaeth, gwaredu, dy godi, a'th ogoneddu â'i ysblander fyth bythoedd."


Ble all person ddod o hyd i'r pŵer i ddal ati mewn bywyd o gariad pan nad oes fawr ddim o wobrau daearol? Ble mae gŵr neu wraig yn cael y nerth emosiynol i ddal ati i roi pan nad oes unrhyw ad-daliad? Ble mae dyn neu dynes fydde'n hoffi bod yn briod yn cael y nerth i fod yn fodlon am saithdeg mlynedd o fod yn sengl? Ble cafodd Iesu y nerth i oddef y groes a dirmygu'r cywilydd? (Hebreaid, pennod 12, adnod 2).


Er mwyn y llawenydd a gawn gerbron yr atgyfodiad dŷn ni'n goddef popeth er mwyn Crist. Wnaeth Iesu ddim addo y byddai ffyddlondeb yn cael ei wobrwyo gan ddynion yn y bywyd hwn. Mae ein gobaith ni yn llifo o'r gwirionedd cadarn Rhufeiniaid, pennod 8, adnod 11, a nid o amgylchiadau symudol yn ein bywydau. "Ac os ydy Ysbryd yr Un gododd Iesu yn ôl yn fyw wedi dod i fyw ynoch chi, bydd e'n rhoi bywyd newydd i'ch cyrff marwol chi hefyd. Dyna mae'r Ysbryd Glân sydd wedi dod i fyw ynoch chi yn ei wneud."


Os wyt yn wirioneddol gredu fod Duw yna i ti ac nid yn dy erbyn, a bydd yn rhoi bywyd i ti yn dy gorff meidrol drwy'r Ysbryd sy'n byw ynot ti, ac y bydd pa bynnag dda rwyt yn ei roi heibio yn y bywyd hwn yn cael ei ad-dalu gant y cant yn atgyfodiad y cyfiawn (Marc, pennod 10, adnodau 28 i 30), ac y byddi'n disgleirio fel yr haul yn disgleirio fel yr haul yn nheyrnas dy dad, yna mae gennyt gronfa ddi-ddiwedd o nerth i ddal ati i wneud y da mae Duw wedi dy alw i wneud, pa un ai os yw rhywun yn ei werthfawrogi nawr ai peidio.


Dysga fwy: http://www.desiringgod.org/messages/the-spirit-will-give-life-to-your-mortal-bodies


Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Live By The Spirit: Devotions With John Piper

7 Darlleniad Defosiynol gan John Piper ar yr Ysbryd Glân

Hoffem ddiolch i John Piper a Desiring God am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.desiringgod.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd