Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Byw drwy'r Ysbryd: Defosiynau gyda John PiperSampl

Live By The Spirit: Devotions With John Piper

DYDD 1 O 7

Yr Ysbryd yw Hyfrydwch Duw

Yr Ysbryd Glân yw Duw. Y person sy'n ein ymbreswylio ynom, ein harwain, ac yn ein puro yn, neb llai na, Duw, yr Ysbryd Glân. Y dystiolaeth syml ar gyfer hyn yw y penodiad cyson o "Ysbryd Duw." Nid "Ysbryd Duw" oherwydd fod Duw wedi'i greu e, ond oherwydd ei fod e'n rhannu natur Duw ac yn dod yn dragwyddol oddi wrth Dduw (gweler 1 Corinthiaid, pennod 2, adnodau 10 i 12).


Os yw Mab Duw yr un mor dragwyddol gyda'r Tad, fel mae Ioan, pennod 1, adnodau 1 i 3 yn ei ddweud, mae'r Ysbryd Glân, felly, yr un mor dragwyddol â'r ddau ohonyn nhw, oherwydd, yn ôl Rhufeiniad, pennod 8, adnodau 9 i 11, yr Ysbryd Glân yw Ysbryd Duw. Os nad fel hyn oedd hi, mae'n rhaid i ni ddychmygu fod cyfnod ble pan nad oedd gan y Mab ddim Ysbryd a felly hefyd y Tad. Ond mae'r Ysbryd Glân yn hanfodol i'r berthynas rhwng y Tad a'r Mab. Mae e, o ddefnyddio geiriau C.G. Moule, “the Result, the Bond, the Vehicle, of their everlasting mutual delight and love” (Person and Work of the Holy Spirit, tud. 28).


Mor bell nôl i dragwyddoldeb ag y mae'r Tad wedi caru'r Mab, mae yna gariad Ysbryd Glân a hyfrydwch di-ddiwedd wedi bod rhynddon nhw, oherwydd mae e ei hun yn Berson dwyfol. Felly, fel mae Iesu yn gweddïo dros yr eglwys yn Ioan, pennod 17, adnod 26, mae e'n gofyn am ddim llai na'r Ysbryd Glân pan mae e'n dweud. "Dw i wedi dangos pwy wyt ti iddyn nhw, a bydda i'n dal ati i wneud hynny, er mwyn iddyn nhw garu eraill fel rwyt ti wedi fy ngharu i, ac i mi fy hun fod ynddyn nhw."


Y gwirionedd mwyaf godidog o unrhyw wirionedd y byddwn yn ei ddarganfod yn y 7 defosiwn hyn yw, pan mae'r Ysbryd Glân yn dod i mewn i'n bywydau, mae e'n dod; nid yn unig fel Ysbryd y Mab; na hyd yn oed Ysbryd y Tad, ond fel Ysbryd y cariad tragwyddol rhwng y Tad a'r Mab, fel ein bod ni yn caru'r Tad gyda chariad y Mab, a charu'r Mab gyda chariad y Tad.


Dysga fwy:utm_source=youversion.com&utm_medium=app&utm_campaign=youversion&utm_term=holyspirit">http://www.desiringgod.org/messages/the-holy-spirit-he-is-god



Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Live By The Spirit: Devotions With John Piper

7 Darlleniad Defosiynol gan John Piper ar yr Ysbryd Glân

Hoffem ddiolch i John Piper a Desiring God am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.desiringgod.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd