Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Byw drwy'r Ysbryd: Defosiynau gyda John PiperSampl

Live By The Spirit: Devotions With John Piper

DYDD 3 O 7

Mae'r Ysbryd yn Gorchfygu Ofn

"Fel dw i'n tywallt dŵr ar y ddaear sychedig, a glaw ar dir sych, bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar dy ddisgynyddion di, a'm bendith ar dy blant" - Eseia, pennod 44, adnod 3.


Wyt ti'n gwybod pam ei bod hi'n haws bod yn neis i bobl ar ddydd Gwener nac ydy hi ar ddydd Llun? Onid yw e oherwydd fod gobaith fel afon yn llifo i mewn i ni o ddyfodol disglair, yn llenwi cronfa ein llawenydd, ac yna'n gorlifo mewn caredigrwydd tuag at eraill?


Ar ddydd Gwener mae gorffwys ac adloniant ar y gorwel, mor agos fel ein bod yn eu blasu. Drwy obaith dŷn ni'n blasu pŵer y penwythnos sydd i ddod. Mae'r cronfa fach o lawenydd yn dechrau llenwi. Ac os yw'r penwythnos yn edrych yn ddigon disglair, bydd ein cronfa yn llenwi i'r ymylon ac yn gorlifo.


Yr enw ar y gorlifo hyn ar ben pobl eraill yw cariad. Felly, dych wastad yn fwy neis i bobl pan dych chi'n teiml;o'n hapus am y dyfodol. Mae gobaith hyn eich llenwi gyda llawenydd, ac mae gobaith yn gorlifo mewn gwenau a geiriau a gweithredoedd caredig. Mae e'n digwydd cyn mynd ar wyliau, cyn penblwyddi, cyn y Nadolig, ac i'r rhan helaeth o bobl, ar ddydd Gwener.


Pan dŷn ni wedi ein trochi yn yr Ysbryd, dŷn ni wedi ein trochi gyda'r sicrwydd fod pob dydd Llunb wedi'u creu yn y nefoedd, yn union fel pob dydd Gwener. Does dim angen i beth bynnag sy'n edrych yn ddychrynllyd yfory ddim angen bod yn ddychrynllyd os yw wedi'i lemwi â'r Ysbryd. Falle bod perthynas ag eraill gartref yn ddirdynnol, falle bod iechyd yn dirywio, falle bod dy bennaeth ar fin dy ddiswyddo, falle y bydd yna wrthdaro bygythiol yfory - beth bynnag sy'n dy wneud yn bryderus am yfory, agor dy galon i orlifiad Ysbryd Duw; tro at addewid ei air a bydd e yn dy lenwi â gobaith a gorchfygu dy ofn.


Pan fydd yr Ysbryd Glân yn cael ei orlifo allan, nid yn unig y bydd ofnau yn cael eu gwaredu ond bydd dyheadau'n cael eu bodloni. Bydd syched ur enaid am Dduw yn cael ei fodloni - neu o leiaf byddwn yn blasu digon o foddlonrwydd ynddo fe i wybod ble y dylem dreulio gweddill ein bywydau yn yfed.


Gall ein dyfodol edrych yn llwm am ddau reswm: un ydy fod posibilrwydd fod trallod ar ei ffordd, y llall ydy nad yw hapusrwydd ar ei ffordd. Ac onid yw fwy neu lai holl waith y galon ddynol wedi'i flino gan y ddau beth yma: yn ofni trallod y dyfodol a sychedu am hapusrwydd y dyfodol? Os felly, mae addewid Eseia yn union beth dŷn ni ei angen: pan mae'r Ysbryd yn gorlifo yn y galon, mae ofn yn cael ei gymryd i ffwrdd ac mae syched wedi'i fodloni

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Live By The Spirit: Devotions With John Piper

7 Darlleniad Defosiynol gan John Piper ar yr Ysbryd Glân

Hoffem ddiolch i John Piper a Desiring God am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.desiringgod.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd