Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Byw drwy'r Ysbryd: Defosiynau gyda John PiperSampl

Live By The Spirit: Devotions With John Piper

DYDD 4 O 7

Yr Ysbryd sy'n ein Diogelu

"cawsoch chithau eich derbyn i berthynas â'r Meseia ar ôl i chi glywed y gwir, sef y newyddion da sy'n eich achub chi. Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sêl sy'n dangos eich bod yn perthyn iddo, a'r sêl hwnnw ydy'r Ysbryd Glân oedd wedi'i addo i chi. - Effesiaid, pennod 1, adnod 13 i 14)


Dymuniad mawr Duw yw bod ei bobl yn teimlo'n ddiogel yn ei gariad a'i rym. Falle bod pob dim arall yn sigledig mewn bywyd yn sigledig - eu=in hiechyd, ein teulu, ein swydd, ein haddysg, ein cymdeithas, ein byd. Ar unrhyw un o'r lefelau hyn mae'n bosib dy fod yn teimlo fel dy fod ar ymyl dibyn uchel iawn a'r gwynt yn chwyldroi. Rwyt yn teimlo dy hun yn colli dy falans ac yn disgyn, ac mae unrhyw beth ti'n afael ynddo yn torri.


Am fod Duw yn gwneud pob dim er clod i'w ogoniant, a chan fod credu ei Air yn mawrygu'r gogoniant hwnnw, mae Duw yn cymryd camau pendant i sicrhau iddo'i hun mawrygu ei ogoniant am byth: mae e'n selio'r crediniwr gyda'r Ysbryd Glân, a gwarantu y byddwn yn dod i'n etifeddiaeth yn clodfori ei ogoniant.


Mae ymrwymiad Duw tuag at gael ei bobl yn eiddo'i hun ac sy'n byw er mwyn clodfori ei ogoniant fel nad yw'n barod i adael i'n tynged tragwyddol ddibynnu ar ein pwerau cynhenid o'n hewyllysio neu gwneud. Mae e'n comisiynu ei Ysbryd Glân i dreiddio i'n bywydau a'n gwneud yn ddiogel am byth.


Mae Duw yn anfon yr Ysbryd Glân fel sêl sy'n amddiffynnol i gadw allan grymoedd dinistriol. Y pwynt ydy, mae duw eisiau i ni deimlo'n ddiogel yn ei gariad a'i rym.


Yn Effesiaid, pennod 1, adnod 14, mae Duw yn dweud, "Fy nymuniad i'r rhai hynny sy'n credu ynof fi yw eich bod yn teimlo'n ddiogel yn fy nghariad. Rwyf wedi eich dewis cyn gosod seiliau'r byd. Rwyf wedi eich rhagordeinio i fod yn blant i mi am byth. Rwyf wedi eich achub drwy waed fy Mab. A dw i wedi rhoi fy Ysbryd ynoch chi fel sêl a gwarant. Felly, byddwch yn derbyn yr etifeddiaeth ac yn clodfori gogoniant fy ngras byth bythoedd.


A dw i'n dweud hyn wrthoch chi yn Effesiaid 1 oherwydd dw i eisiau i chi deimlo yn ddiogel yn fy nghariad a grym. Dw i ddim yn addo bywyd hawdd. I ddweud y gwir, i fynd i fewn i'r deyrnas byddi'n mynd drwy sawl trallod (Actau, pennod 14, adnod 22). Gad i mi ddweud e eto: Dw i wedi dy ddewis di. Dw i wedi dy ragordeinio, dw i wedi dy achub, dw i wedi dy selio yn fy Ysbryd. Mae dy etifeddiaeth yn sicr, oherwydd dw i wedi ymroi'n angerddol i fawrygu gogoniant dy ras yn dy iachawdwriaeth."


Dysga fwy: http://www.desiringgod.org/messages/sealed-by-the-spirit-to-the-day-of-redemption


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Live By The Spirit: Devotions With John Piper

7 Darlleniad Defosiynol gan John Piper ar yr Ysbryd Glân

Hoffem ddiolch i John Piper a Desiring God am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.desiringgod.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd