Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Eistedd mewn Llonyddwch: 7 Diwrnod i aros y tu mewn i Addewid DuwSampl

Sitting in the Still: 7 Days to Waiting Inside of God’s Promise

DYDD 1 O 7

DIWRNOD 1

EISTEDD MEWN LLONYDDWCH: YN Y MANNAU TAWEL


Wrth i ni ddechrau, byddwn ni’n edrych ar rywun a gafodd addewid gan Dduw ymhell cyn iddyn nhw allu ei fwynhau. Mae stori SaraI ac Abraham bob amser yn rhoi'r dyfalbarhad i mi bwyso arno pan fo addewidion mor bell i ffwrdd.



Mae Duw yn aml yn rhoi ffordd yr addewid i ni cyn iddo roi’r broses i ni. Dwedodd Duw wrth SaraI y byddai'n geni plentyn yn ei henaint, ond wnaeth Duw erioed beth fyddai ei hoed. Wnaeth Duw ddim gofyn ychwaith i Sarai ei helpu i wireddu ei addewid. Aeth cryn amser heibio, cyn i Sarai ac Abraham glywed dim am yr addewid a roddodd iddyn nhw. Dechreuon nhw feddwl bod angen eu help ar Dduw i gyflawni ei addewid iddyn nhw. Sawl gwaith ydyn ni'n euog o hyn hefyd?



Mae Duw yn rhoi lleoliad pen y daith i ni cyn iddo ddweud wrthon ni sut i gyrraedd. Falle i gynnig gobaith i ni, gan ein bod yn eistedd mewn mannau llonydd lle mae'n teimlo nad oes dim yn digwydd. Mae lle llonydd yn bwysig oherwydd dyma ble mae ein ffydd yn cael ei harddangos a'i chryfhau. Dŷn ni’n dysgu gwersi, ufudd-dod, amynedd, a dyfalbarhad yn y mannau tawel.



Mae’n hollbwysig i ni aros yn ffyddlon yn y mannau tawel yn hytrach na cheisio cyflymu’r broses drwy wneud unrhyw beth i gynorthwyo Duw. Hefyd dydyn ni ddim eisiau gwneud penderfyniad yn emosiynol, i symud ymlaen at rywbeth dŷn ni'n meddwl y byddai gan Dduw i ni ei wneud.



Yn y lle llonydd, dŷn ni'n dysgu adnabod llais Duw a'i dawelwch. Os gwnawn ni gam gwag heb glywed Duw, fe allen ni beryglu’r addewid mae Duw wedi ei roi i ni neu gall e ei ddal nôl. Penderfynodd Sarai ac Abraham symud heb Dduw. Wnaethon nhw ddim fforffedu addewid Duw, ond fe wnaethon nhw roi straen diangen ar eu bywydau nhw a bywydau pobl eraill.



Yn aml yn ein brys i gyrraedd addewid, dŷn ni’n trio camu i mewn a helpu Duw fel Sarai ac Abraham, gan ychwanegu straen diangen at addewid di-straen. Paid â chyfaddawdu dy addewid trwy wrthod aros ar Dduw, yn lle bydd yn llonydd. Gad i Dduw gwblhau ei waith ynot ti a throsot ti. Sicrha bopeth sydd gan Dduw i ti trwy fwynhau'r llonyddwch a dal gafael yn ei addewidion. Paid â symud, paid ag amau, paid â chwyno, na strategaethu, bydd yn llonydd a disgwyl. Mae gan Dduw gynllun ar gyfer ei addewid a'th fywyd.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Sitting in the Still: 7 Days to Waiting Inside of God’s Promise

Mae yna adegau y mae gynnon ni addewid gan Dduw, ond dŷn ni ddim yn gweld ein bywyd yn cyd-fynd â'r addewid y mae Duw wedi'i roi i ni. Neu mae yna adegau dŷn ni'n cyrraedd croesffordd yn ein bywyd, gan ddibynnu ar Dduw i...

More

Hoffem ddiolch i Jessica Hardrick am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://jessicahardrick.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd