Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Eistedd mewn Llonyddwch: 7 Diwrnod i aros y tu mewn i Addewid DuwSampl

Sitting in the Still: 7 Days to Waiting Inside of God’s Promise

DYDD 3 O 7

DIWRNOD 3



EISTEDD MEWN LLONYDDWCH: MAE DUW YMA

Mae llawer ohonom wedi bod mewn sefyllfa amhosibl lle na allem weld ffordd allan. P’un ai gawsom ddiagnosis meddygol anffafriol, colli swydd, neu golli anwylyd, gall fod yn anodd gweld neu ddod o hyd i Dduw yn yr eiliadau hyn. Mae'r rhain yn eiliadau pan fyddwn ni'n teimlo'n gaeth, lle dŷn ni'n teimlo bod ein cefn yn erbyn y wal a does dim ffordd allan.



Yn y Beibl, dŷn ni’n gweld Jacob yn rhedeg o sefyllfa a greodd. Yn seiliedig ar ei weithredoedd, falle y bydd rhywun yn dweud nad oedd Jacob yn haeddu cael ffafr Duw arno, gan fod Jacob wedi bod yn dwyllodrus, hyd yn oed yr hyn y byddai rhai yn ei alw'n anonest. Dw i’n siŵr bod Jacob yn teimlo nad oedd Duw gydag e ar ei daith. Fel yr oedd Jacob yn gorwedd mewn lle anial, yn anobeithiol, yn rhedeg oddi wrth yr holl ddrwg a wnaeth, ymwelodd Duw ag e. Ynghanol y llanast a greodd Jacob, dw i’n amau ei fod yn disgwyl dod o hyd i Dduw yn y lle hwn. Ond hyd yn oed yn ei lanast, ymwelodd Duw ag e mewn breuddwyd a rhoddodd gadarnhad i Jacob o'i bresenoldeb yn ei awr dywyllaf.



Cyn yr ymweliad dwyfol hwn gan Dduw, falle fod Jacob wedi teimlo’n unig, yn ofnus ac ar goll. Falle ei fod yn teimlo nad oedd pwrpas gofyn i Dduw am help na gras. Yn union fel Jacob, dŷn ni’n aml yn cau ein hunain oddi wrth Dduw pan dŷn ni’n teimlo nad ydyn ni’n deilwng neu pan dŷn ni’n meddwl bod Duw wedi gwneud cam â ni. Y newyddion da yw hyd yn oed yn ein cyfnod tywyllaf, nid yw Duw byth yn ein gadael, hyd yn oed pan fydd yn ymddangos yn dawel ar ein materion.



Unwaith i Jacob ddarganfod bod Duw yn dal gydag e, roedd yn ddigon dewr i symud ymlaen ar ei lwybr, gan wybod y byddai Duw yn mynd gydag e i'w amddiffyn. Falle mai dyma ddechrau ei berthynas bersonol â Duw. Falle bod Jacob yn gwybod am Dduw o berthynas ei dad â Duw ond nid oedd wedi profi a sefydlu ei berthynas eto. Trwy wrthdaro a chyfnodau cythryblus, mewn amser tawel, daeth o hyd i wir berthynas â Duw.



Os wyt ti mewn sefyllfa heddiw sy'n teimlo'n amhosib, cymra amser i oedi, gweddïo, a chwilio am Dduw yn union lle rwyt ti, mae e yno. Er y gall ymddangos yn llonydd a thawel, parha i geisio Duw, Mae yno, ac yn ei amser, Bydd yn datgelu ei hun. Nid yw Duw byth yn ein gadael, ond mae'n aros i ni dderbyn ei wahoddiad i gerdded trwy fywyd gydag e. Yn union fel y sylweddolodd Jacob fod angen iddo symud ymlaen gyda Duw a cherdded i'w warchod, mae Duw yn aros arnom ni i wneud yr un peth yn ein sefyllfa ni. A wnei di dderbyn ei wahoddiad?


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Sitting in the Still: 7 Days to Waiting Inside of God’s Promise

Mae yna adegau y mae gynnon ni addewid gan Dduw, ond dŷn ni ddim yn gweld ein bywyd yn cyd-fynd â'r addewid y mae Duw wedi'i roi i ni. Neu mae yna adegau dŷn ni'n cyrraedd croesffordd yn ein bywyd, gan ddibynnu ar Dduw i...

More

Hoffem ddiolch i Jessica Hardrick am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://jessicahardrick.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd