Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Eistedd mewn Llonyddwch: 7 Diwrnod i aros y tu mewn i Addewid DuwSampl

Sitting in the Still: 7 Days to Waiting Inside of God’s Promise

DYDD 5 O 7

DAY 5

EISTEDD MEWN LLONYDDWCH: DISGWYL AM BWRPAS



Cafodd Dafydd ei eneinio’n frenin rhwng 16-19 oed, ond roedd yn 30 oed cyn iddo allu teyrnasu’n swyddogol ar Israel. Rhwng 23 a 30 oed, deliodd Dafydd â digofaint y brenin Saul a llawer o galedi eraill, ond arhosodd yn ffyddlon a disgwyl am yr amcan a addawodd Duw iddo.



Yn nheyrnas Dduw, dydyn ni ddim bob amser yn cael yr hyn dŷn ni ei eisiau, ac nid pan dŷn ni ei eisiau. Mae aros yn rhan hanfodol o'r bywyd y cawn ein galw iddo wrth i ni aeddfedu yng Nghrist. Mae aros yn ein paratoi i bwrpas, yn cryfhau ein ffydd, ac yn dysgu dyfalbarhad inni.



Roedd Duw yn gwybod y byddai angen sgiliau, dyfalbarhad a gwybodaeth arbennig ar y brenin Dafydd i arwain yn effeithiol. Dw i'n credu bod Duw wedi rhoi llawer o'r hyn y byddai ei angen ar Dafydd fel brenin yn ystod y blynyddoedd hynny.



Mae'n debygol y bydd angen iti fod yn barod ar gyfer y pwrpas a neilltuwyd i'th fywyd. Er y gallet deimlo'n barod i gerdded i mewn i'th alwad, mae Duw yn gwybod beth mae dy alwad yn ei olygu, felly rho dy ffydd ynddo. Pan fyddi di’n teimlo bod Duw wedi dy alw i rywbeth ond ddim yn deall pam nad yw dy amser wedi dod eto, cofia, falle ei fod yn dy hyfforddi di yn union fel y gwnaeth gyda Dafydd. Bydd yn ufudd, ffyddlon, amyneddgar, a bydd yn ddiwyd o flaen pwrpas. Y mae gan Dduw bob amser gyda gwell cynllun nag sydd gynnon ni; gweddïa heddiw ar i'th galon gael ei hildio i'r cynllun hwnnw a'i ewyllys perffaith.


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Sitting in the Still: 7 Days to Waiting Inside of God’s Promise

Mae yna adegau y mae gynnon ni addewid gan Dduw, ond dŷn ni ddim yn gweld ein bywyd yn cyd-fynd â'r addewid y mae Duw wedi'i roi i ni. Neu mae yna adegau dŷn ni'n cyrraedd croesffordd yn ein bywyd, gan ddibynnu ar Dduw i...

More

Hoffem ddiolch i Jessica Hardrick am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://jessicahardrick.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd