Nid oedd plant gan Sarai gwraig Abram, ond yr oedd ganddi forwyn o Eifftes, o'r enw Hagar. Dywedodd Sarai wrth Abram, “Edrych yn awr, y mae'r ARGLWYDD wedi rhwystro imi ddwyn plant. Dos at fy morwyn; efallai y caf blant ohoni hi.” Gwrandawodd Abram ar Sarai. Wedi i Abram fyw am ddeng mlynedd yng ngwlad Canaan, cymerodd Sarai gwraig Abram ei morwyn Hagar yr Eifftes, a'i rhoi'n wraig i'w gŵr Abram. Cafodd ef gyfathrach â Hagar, a beichiogodd hithau; a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, aeth ei meistres yn ddibris yn ei golwg.
Darllen Genesis 16
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 16:1-4
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos