Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Arfogaeth DuwSampl

The Armor of God

DYDD 4 O 5

Mae bron pob un hogyn bach yn hoffi chwarae "Cowbois ac Indiaid cochion" Fodd bynnag mae plant yn ffugio chwarae yn y Gorllewin Gwyllt yn eithaf gwahanol i ryfel gydag arfau go iawn. Er enghraifft gad i ni edrych ar arferiad y gororau o gyrchoedd ar hap gyda saethau tanllyd. Fe wnaeth y strategaeth tactegol hwn ddal allan yr ochr arall. Byddai saethau tanllyd yn dechrau tân ar wagen oedd yn creu aflonyddu'r preswylwyr gan achosi iddyn nhw ganolbwyntio ar y tân, yn hytrach na'r gelyn oedd yn ymosod.



Nid lladd neu ddifrodi oedd prof bwrpas saethau tanllyd, ond yn hytrach, denu sylw.



Mae dy elyn eisiau denu dy sylw fy chwaer fel ei fod yn gallu dy ddallu. A gwrando, dydy e ddim yn saethu'r saethau yma'n chwit-chwat. Mae e'n benodol yn ei strategaeth. Mae e wedi astudio dy dueddiadau ac arferion, dy ofnau dyfnaf a'th wendidau, ac mae e wedi anelu'n bwrpasol at y llefydd hynny. Mae e'n gwybod na allith e dy ddinistrio. Rwyt yn gwbl ddiogel yn Iesu. Ond ei fwriadau yw denu dy sylw drwy ddechrau nifer o danau mewnol yn dy fywyd - fel ansicrwydd, brawychu, pryder, poendod, neu brysurdeb. Mae eisiau i ti ganolbwyntio ar y pethau hyn tra ei fod yn ymosod o du cefn i ti.



Yn Effesiaid, pennod 6. mae Paul yn cyfleu'r belt, dwyfronneg, ac esgidiau fel lifrai ysbrydol sydd angen eu gwisgo gan gredinwyr drwy'r adeg. Funud wrth funud. Diwrnod wrth ddiwrnod. Ond gyda tharian ffydd, mae e'n gorchymyn iddi gael ei "gwisgo."



Edrycha ar y peth fel yma. Falle bod nyrs yn gwisgo 'scrubs' bob dydd am mai dyna yw ei gwisg gwaith. Ond pan mae'r angen yn codi, bydd yn gafael mewn stethosgop, mesurydd pwysewdd gwaed, neu nifer o bethau i'w defnyddio ar ei chlaf. Felly hefyd, rhaid i ni wisgo ein gwisg ddyddiol, ddwyfol, ond bod yn barod i wisgo'r eraill pan fydd angen.



Y cyntaf o'r arfwisgoedd hyn yw tarian ffydd. Y funud y byddwn yn synhwyro saeth tanllyd yn ymdreiddio i' bywyd mewn rhyw ffordd, dylem danio ffydd fel tarian o amddiffyniad yn ein bywydau.



Paid colli golwg ar yr eironi yma. Mae'r gelyn yn anfon saethau tanllyd i mewn i dy fywyd yn benodol pan wyt yn cael dy alw i gerdded mewn ffydd. Mae'r saethau hynny yn fwriadol ar gyfer dy rwystro rhag gwneud yr union beth sydd â'r grym i'w diffodd nhw: cerdded mewn ffydd!



Mae ffydd yn achosi saethau tanllyd i hisian. Beth mae Duw yn ei ofyn i ti ei wneud? Gwna e! mewn Ffydd.
Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

The Armor of God

Drwy dydd, pob dydd, mae rhyfel cuddiedig yn rhuo o'th gwmpas - anweledig, di-glywed, ond eto i'w deimlo drwy bob agwedd o'th fywyd. Mae gelyn ffyddlon dieflig yn ceisio achosi hafog gyda phopeth sydd o bwys i ti: P dy g...

More

Hoffem ddiolch i Priscilla Shirer a LifeWay Christian Resources am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.lifeway.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd