Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Arfogaeth DuwSampl

The Armor of God

DYDD 2 O 5

Doedd Paul ddim yn gofyn mewn gweddi y byddai'r credinwyr o blith yr Effesiaid yn derbyn eu digonedd o etifeddiaeth ysbrydol gyfoethog. bendithion pŵer, ac awdurdod, ond eu bod yn sylweddoli ei fod yna iddyn nhw. Fel Cristnogion roedden nhw'n berchen ar hyn yn barod, fel dŷn ni. Ond nes oedden nhw'n sylweddoli hyn, beth allai e ei gyflawni.



Mewn gwirionedd, mae'r arfwisg ysbrydol mae e'n ei ddisgrifio yn Effesiaid yn ddim mwy nac ailadrodd ffordd arall o ddisgrifio - yr hyn roedd Paul wedi bod yn ei esbonio'n rhan gyntaf y llythyr. Sut allen nhw "wiso" neu "gymryd arnyn" bethau nad oedden nhw'n wybod oedd ganddyn nhw? Y cam cyntaf iddyn nhw - y cam cyntaf i ni - i ddefnyddio'r adnoddau dŷn ni wedi'i cael yw i ni gael agor ein llygaid i'w gweld nhw.



Stori Eliseus a'i was oedd ddim yn gweld yn 2 Brenhinoedd, pennod 6 yw un o fy hoff storîau o'r Beibl. Yr hyn sydd ar ddigwydd yma yw brwydr rhwng brenin gandryll Syria a chenedl Israel.



Cafodd was Eliseus lond llygad. I dd, echrau, fedrai o ddim gweld y gelyn, adawodd, fwy na thebyg, ymateb o ofn a phryder.,

Ond, bron ar amrantiad cafodd agoriad llygad roddodd iddo wirionedd ysbrydol oedd yn gwyrdroi gwirionedd ysbrydol: roedd gymaint mwy ar gael iddo na allai fyth ei ddychmygu. Doedd yr hyn allai ei lygaid corfforol ei weld ddim o'i gymharu â beth na allai weld. Gwnaeth gweddi Eliseus ei wneud yn ymwybodol o'r adnoddau a nerth oedd ar ei ochr yn ymladd yn erbyn y gelyn.



I fod yn hyderus a buddugol, rhaid i ti fod yn gallu ei "weld".



Yn Effesiaid, pennod 1. mae Paul yn pwysleisio dim ond rhai o'r rhoddion mae Duw wedi'u rhoi i ni. Mae yna gymaint mwy, ac mae pob un yn cysylltu'n benbodol gyda dy arfau a'th arfwisg ysbrydol.



Yr allwedd cyntaf i ddeall sut mae nhw'n ffitio i'th allu i atal y gelyn rhag symud yw gweledigaeth. Fedri di mo'u defnyddio nhw, os nad wyt yn gallu eu hadnabod yn iawn, os nad wyt yn ymwybodol eu bod ar gael a'u pwysigrwydd mewn cynnal ymgyrch yn erbyn y gelyn.



Mae buddugoliaeth yn dechrau yma. heddiw. Mae'n dechrau gyda gweddi am weledigaeth.



Felly, ymuna gyda Paul i ofyn iddo agor dy lygaid fel y gelli, nid yn unig, ganfod gweithgaredd y gelyn, ond hefyd bod yn hollol ymwybodol o'r hyn mae Duw wedi'i roi i ti i diarfogi a'i orchfygu e yn dy fywyd.
Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

The Armor of God

Drwy dydd, pob dydd, mae rhyfel cuddiedig yn rhuo o'th gwmpas - anweledig, di-glywed, ond eto i'w deimlo drwy bob agwedd o'th fywyd. Mae gelyn ffyddlon dieflig yn ceisio achosi hafog gyda phopeth sydd o bwys i ti: P dy g...

More

Hoffem ddiolch i Priscilla Shirer a LifeWay Christian Resources am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.lifeway.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd