Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Arfogaeth DuwSampl

The Armor of God

DYDD 1 O 5

Nid y materion trafferthus hynny mewn bywyd, rwyt yn èu hadnabod drwy dy bum synnwyr corfforol, sy'n broblem. Mae pob dim sy'n digwydd yn y byd gweledol, ffisegol yn uniongyrchol gysylltiedig â'r frwydr yn y byd anweledig, ysbrydol. Mae dy elyn go iawn - y diafol - eisiau i ti anwybyddu'r gwirionedd ysbrydol sydd tu ôl i 'r un ffisegol. Oherwydd, cyn belled dy fod wedi ffocysu ar yr hyn rwyt yn gallu ei weld gyda'th lygaid corfforol, mae e'n gallu dal ati i redeg reiat o dan y wyneb. Po fwyaf rwyt yn ei anwybyddu, mae'n gallu gwneud gymaint mwy o ddifrod. Falle bod y gelyn yn anweledig ond dyw e ddim yn ffug. Mae e'n real ac yn dyfalbarhau, gan ymosod arnom yn ddi-ddiwedd.



Dydy bod yn grediniwr ddim yn dy amddiffyn rhag ymosodiadau'r gelyn, ond mae e'n rhoi mynedfa i ti at rym y Tad - ei rym i'th amddiffyn, yn ogystal â dadwneud yr hyn sydd wedi'i wneud i ti yn barod. Os wyt ti eisiau ennill y frwydr - os wyt ti eisiau ymuno â fi a newid trywydd y stori, a chael y gorau ar y gelyn, a pharlysu ei effaith ar dy fywyd - yr allwedd yw adnabod dy fod gennyt fynedfa at gymaint mwy o nerth ysbrydol na'r hyn sy'n ymosod arnat.



Sgwennodd Paul yn Effesiaid, nid yn unig i dynnu sylw at y frwydr ysbrydol sy'n bodoli'n y cylchoedd anweledig, ond yn fwy n a dim, ar gyfer dadorchuddio'r nerth gynhenid sydd ym mhob person sydd mewn perthynas gyda Duw drwy Grist. Yn Effesiaid mae Paul yn amlygu un o'r agweddau pwysicaf, er wedi'i esgeuluso, ein arfwisg ysbrydol: gweddi.



Barnodd Paul fod gweddi mor allweddol mewn ennill y frwydr dros rym Satan yn ein bywydau fel, gwnaeth un ysgolhaig sylweddoli, "Mae yna, yn gyfrannol, gymaint â 55 y cant yn fwy o adnodau yn 'Effesiaid ag sydd yn Rhufeiniaid. Llythyr hiraf Paul. 1 Torrodd allan yn aml i weddïo tra roedd yn sgwennu. A phan fydd yn gweddïo...dyna beth yw strategydd, sicrhau ei fod yn dweud wrth ei ddarllenwyr beth mae e'n weddïo drosto. Gwyddai fod gweddi yn gallu newid llwybr eu bywydau cyfan. Mae buddugoliaeth mewn rhyfel ysbrydol yn anwahanadwy oddi wrth gweddi.



Darllena Effesiaid, pennod 1 , adnodau 18 i 21, a phennod 3, adnodau 14 i 19. O'r holol bethau mae Paul yn ei weddïo, pa un wyt ti an gen ei ofyn amdano fwyaf?
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

The Armor of God

Drwy dydd, pob dydd, mae rhyfel cuddiedig yn rhuo o'th gwmpas - anweledig, di-glywed, ond eto i'w deimlo drwy bob agwedd o'th fywyd. Mae gelyn ffyddlon dieflig yn ceisio achosi hafog gyda phopeth sydd o bwys i ti: P dy g...

More

Hoffem ddiolch i Priscilla Shirer a LifeWay Christian Resources am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.lifeway.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd