Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Arfogaeth DuwSampl

The Armor of God

DYDD 3 O 5

Roedd milwr Rhufeinig yn amddiffyn ei lwynau drwy wisgo rywbeth oedd yn fwy tebyg i wregys na belt. Mae'r rhan helaeth o ysgolheigion yn cytuno fod y gwregys, yn fwy nac unrhyw ddarn arall o wisg neu offer y milwr, roedd y gwregys gyda'i addurniadau manwl a byclau coeth - yn gwahaniaethu milwr oddi wrth person cyffredin. Nid rhyw ychwanegyn opsiynol fel bydde ti neu fi'n ei ychwanegu i wisg. Roedd yn ganolbwynt strategol i'w wisg. Meddylia am y bresys meingefnol llydan maer gweithwyr UPS® a FedEx® yn eu gwisgo am eu canol pan yn cario pecynnau trymion.



Roedd y gwregys lledr cryf y milwr Rhufeinig wedi'i wneud i fynd o gwmpas y corff a chynnig cynhaliaeth hanfodol pan yn cwblhau symudiadau cyflym ac anodd mewn rhyfel. Y gwirionedd yw dy gynhaliaeth. Mae'n darparu y gefnogaeth hanfodol rwyt ei angen pan wyt ynghanol rhyfel ysbrydol.



Cofia, twyll yw dyfais llethol y gelyn. Mae e'n ceisio cuddio gwirionedd gyda lliwiau hudol, gan ein denu i ffwrdd oddi wrth egwyddorion du a gwyn. Mae e'n chwyddo ffantasïau, gan achosi pethau bydol a thila i edrych rywsut yn hynod werthfawr a ffafriol.



Mae ei becynnu mor glyfar fel os nad ydyn ni'n gwybod beth sy'n wir - wirioneddol wybod yn ein calon - dŷn ni fel ysglyfaeth i'w gastiau.



Y Gwirionedd - y gallem ni ei ddiffinio fel barn Duw ar unrhyw fater - yw ein safon. Gwirionedd yw pwy yw Duw a beth mae e'n ddweud yw e, sydd i'w weld orau ym Mherson Iesu Grist. Gwirionedd Duw. Gwirionedd Beiblaidd. Heb deyrngarwch cadarn i a chadarnhad gyda'r gwirionedd hwn - gyda gwirionedd go iawn - rwyt wedi'th adael yn wan ac agored i bethau sy'n edrych a swnio'n iawn ond eto sydd ddim felly. Ond gyda'r safon o wirionedd yn ei le, gelli addasu popeth arall yn dy fywyd - dy uchelgeisiau, dewisiadau, a theimladau, dt feddwl, ewyllys, ac emosiynau - nes bod y cyfan yn unionsyth. Pan wyt yn greiddiol gryf a sefydlog, fedrith y gelyn mo'th arwain ar gyfeiliorn ar chwarae bach gyda'i gelwyddau clyfar. Gwregysa dy hun gyda gwirionedd, ac rwyt yn wyliadwrus "ar unwaith".



Bydd y prawf go iawn yn dod pan fydd delfrydau ac athroniaeth ein diwylliant yn gogwyddo i'r gwrthwyneb, ond eto dŷn ni'n dewis sefyll yn gadarn ar safon ddigyfnewid duw. Mae'r amser wedi dod i ni fod yn ferched wedi ein gwregysu mewn gwirionedd.
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

The Armor of God

Drwy dydd, pob dydd, mae rhyfel cuddiedig yn rhuo o'th gwmpas - anweledig, di-glywed, ond eto i'w deimlo drwy bob agwedd o'th fywyd. Mae gelyn ffyddlon dieflig yn ceisio achosi hafog gyda phopeth sydd o bwys i ti: P dy g...

More

Hoffem ddiolch i Priscilla Shirer a LifeWay Christian Resources am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.lifeway.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd