Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb BeiblaiddSampl

Scaling Leadership with Biblical Wisdom

DYDD 7 O 8

Gorffwys



"Deffra cyn pawb arall a gweithia i mewn i ganol nos. Bydd brysur." - Gary Vaynerchuk.



Bydd brysur yw'r dywediad poblogaidd ar y funud gan rai sy'n mentro ac arweinwyr busnes. Beth bynnag sy'n digwydd, mae angen i ti fod yn brysurach na dy gystadleuwyr. Rho waith i bawb a gwna bopeth sy'n bosibl. Gwna gymaint â sy'n bosibl a mwy! Dyma sydd wedi dod yn beth ellid ei alw'n reol euraidd os wyt ti eisiau llwyddo mewn busnes.



Paid â fy ngham deall i, fe fydd digon o gyfnodau a thymhorau ble bod yn brysur yw'r ateb iawn. O siarad yn gyffredinol, mae meddylfryd at waith yn bwysig dros ben, ac yn aml yn rywbeth coll mewn cyfartaledd uchel o genedlaethau'r dyfodol. Fel un ifanc oedd yn mentro roedd bod yn brysur yn ran enfawr o'm strategaeth. a dw i'n gallu gweld nawr pam bu llwyddiant. Gwasanaethais mewn gweinidogaeth ac arwain timoedd ble roedd bod yn brysur ac t=ymdrech lew yn ffactor allweddol ddefnyddiodd Duw i ddod â llwyddiant arwyddocaol i'r Deyrnas.



Fodd bynnag, peryg dw i nid yn unig wedi'i weld ond wedi'i brofi yw prysurdeb heb reolaeth ac yn brin o orffwys. Dw i wedi taro'r wal sawl gwaith yn ystod y degawdau diwethaf am nad oedd gen i barch iachus iawn at orffwys. Mae'n werth sôn mod i wedi taro ambell i wal fu bron a rhoi diwedd ar fy ngalwad ac allan o'r gorau roedd gan Duw ar gyfer fy mywyd. Dw i'n gallu edrych nôl nawr a gweld mai'r rheswm am hyn oedd diffyg gorffwys cyfannol.



Mae Cynyddu arweinyddiaeth yn ddibynnol iawn ar olwg iachus a duwiol o orffwys. Fel arweinwyr mae'n bwysig i ni sylweddoli nad ydyn ni'n beiriannau ac ddylen ni ddim actio fel ein bod ni felly. Lle da i ddechrau yw drwy sylweddoli nad gwendid yw gorffwys. Dw i wedi cwrdd gymaint o arweinwyr, ifanc a hen, sy'n ymddangos fel eu bod yn gwisgo bathodyn diarhebol o anrhydedd oherwydd eu diffyg cwsg. Dŷn ni angen cael gwared o'r meddylfryd yma am ei fod yn afresymol. Does dim anrhydedd i ddiffyg cwsg a gweithio heb fawr ddim egni ar ôl. (Cynllun Beibl sy'n dangos y realiti fod cwsg yn weithgaredd ysbrydol yw Lifehacks: Practical Tips For Godly Habits'. Dw i'n argymell yn fawr iawn y cynllun pwerus hwn.)



Wyt ti'n sylweddoli fod cwsg yn un o'r chwiliadau Gwgl mwyaf poblogaidd? Mae'r rhyngrwyd wedi'i or-lwytho gan y chwiliadau hyn. Os nad wyt ti wedi chwilio am gwsg neu gymorth i gysgu rwyt ti'n y lleiafrif. Os byddi'n troi i Gwgl am gymorth i gysgu fe ddoi di ar draws ymchwiliadau gwyddonol diddiwedd sy'n sôn am beryglon diffyg cwsg. Mae rhai canlyniadau mor eithafol â clefyd y galon, iselder ysbryd, colli cof, a marwolaeth. Mae bod yn brysur a pheidio gorffwys i atgyfnerthu yn arwain at sgîl-effeithiau mawr sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fwy o salwch, llai o gynhyrchiant, diffyg ffocws, ac ansefydlogrwydd emosiynol.



Mae cynyddu ein harweinyddiaeth angen meddylfryd gwaith, prysurdeb, a dyfalbarhad. Ond sylweddola fod gorffwys yn bwysig. Rhannodd Iesu â'i ddisgyblion a'r Phariseaid, “Cafodd y dydd Saboth ei roi er lles pobl, dim i gaethiwo pobl." Rhoddodd ein Creawdwr y gallu i ni gynhyrchu, adeiladu, a gweithio, ond rhoddodd i ni y gallu i orffwys ar y Saboth.



Gad i ni edrych ar ddarlleniad heddiw a gofyn i Dduw chwilio ein calonnau. Falle fod gennym olwg wyrgam ar orffwys, angen cyfeiliornus i berfformio, neu deimlad y mae angen i ni ennill ein cymeradwyaeth gan Dduw sy'n ein harwain at ddiffyg gorffwys.



O Dduw, chwilia fy nghalon a siarad â fi drwy dy Air. Datgela i mi ble dw i ddim yn cofleidio'r rhodd yn llawn o orffwys.


Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Scaling Leadership with Biblical Wisdom

Mae cynyddu ein harweinyddiaeth yn hollbwysig heddiw. Rhaid i ni ehangu, chwyddo, datblygu ein harweinyddiaeth i addasu i'n hamgylchedd sy'n newid yn barhaus. Technoleg sy'n esblygu'n gyflym, newid dynameg gweithwyr / tî...

More

Hoffem ddiolch i Terry Storch am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://terrystorch.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd