Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb BeiblaiddSampl

Scaling Leadership with Biblical Wisdom

DYDD 4 O 8

Dyfalbarhau


Dydy Cynyddu Arweinyddiaeth ddim ar gyfer y gwan a'r blinedig. Beth nad wyt ti'n gallu ei werthfawrogi o ddarllen llyfrau, gwrando ar eraill, neu ennill Doethuriaeth yw faint o boen y bydd raid i ti ei oddef i gyrraedd dy botensial fel arweinydd. Mae cofleidio'r realiti hwn a chofleidio'r boen a ddaw yn sgil arweinyddiaeth yn addysg amhrisiadwy y mae'n rhaid i ni ei chydnabod a'i gwerthfawrogi. Mae un o fy hoff awduron, James Clear, yn ei roi fel hyn:


"Allwch chi ond bod yn feddyliol gadarn ag y mae eich bywyd yn ei ganiatáu ichi fod. Mae bywyd hawdd yn pennu ar feddylfryd o allu delio â phethau haws yn unig. Mae bywyd heriol yn adeiladu meddylfryd sy'n gallu delio â her. Fel cyhyr sy'n crebachu o ddiffyg defnydd, mae cryfder meddyliol yn pylu os nad yw'n cael ei brofi. Pan nad yw bywyd yn dy herio, heria dy hun."


Wrth imi edrych yn ôl ar fy nhaith fel arweinydd, de i'n cael fy atgoffa'n gyson pa mor allweddol bwysig mae hi wedi bod i fwrw a dyfalbarhau pan mae pethau'n anod. Ond eto, pan mae'r poen a'r pwysau'n llethol, dŷn ni eisiau rhoi'r gorau iddi a pheidio dyfalbarhau. Dw i'n deall hynny'n iawn. Dw i'n gallu meddwl fy hun am sawl achlysur pan na wnes i ddyfalbarhau gymaint ag y dylwn i fod wedi ac yn lle hynny, rhoi'r gorau'n rhy sydyn. Wrth feddwl nôl dw i'n gallu gweld y camgymeriadau hynny. Dw i'n bell o fod yn berffaith ond dw i'n gallu dweud, yn y cyfleoedd mawr pan oedd yn cyfrif fwyaf, bod fy nyfalbarhad, a gras Duw wedi fy helpu i lwyddo.


Pa sefyllfaoedd neu amgylchiadau wyt ti'n eu profi ar hyn o bryd? Wyt ti'n brwydro drwy gyfnodau twf heriol sy'n fwy rhwystredig na boddhaus? Os mai'r 'Ydw' yw'r ateb, bydd yn ddiolchgar. Os yw bywyd yn hawdd a dwyt ti ddim yn teimlo dy fod yn teimlo dy fod yn cael dy herio i'r eithaf, falle ei bod hi'n amser i ti chwilio am her newydd. Dechreua broject newydd, sgwenna'r llyfr yna, dysga iaith newydd, enilla dy radd meistr, neu gwasanaetha gyda phwyllgor nid er elw. Dw i'n meddwl dy fod yn gwybod yn barod beth ydy dy gam nesaf.


Mae'n dibynnu beth yw'r sefyllfa ond mae dyfalbarhau'n mynd i fod yn wahanol i bawb. Bydd yn galonogol fod y mireinio, y dal ati, a'r brwydr sy'n dod o ddyfalbarhau yn amhrisiadwy. Mae cynyddu dy arweinyddiaeth yn gofyn am ddyfalbarhad, ac mae yna ddoethineb Beiblaidd yn disgwyl amdanat ti yng Ngair Duw.


O Dduw, dangos imi sut wyt ti'n gweithredu drwy'r brwydrau hyn er gwell. Helpa fi i beidio rhedeg i ffwrdd oddi wrth heriau ond, yn lle, i redeg atat ti.


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Scaling Leadership with Biblical Wisdom

Mae cynyddu ein harweinyddiaeth yn hollbwysig heddiw. Rhaid i ni ehangu, chwyddo, datblygu ein harweinyddiaeth i addasu i'n hamgylchedd sy'n newid yn barhaus. Technoleg sy'n esblygu'n gyflym, newid dynameg gweithwyr / tî...

More

Hoffem ddiolch i Terry Storch am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://terrystorch.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd