Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb BeiblaiddSampl

Scaling Leadership with Biblical Wisdom

DYDD 6 O 8

Disgwyliadau Mentrus


Pa mor aml wyt ti'n cyfyngu Duw a'r hyn sydd ganddo ar y gweill ar gyfer eich bywyd? Meddylia o ddifri ar hynny am funud. Sut mae dy syniadau mwyaf a'th weddïau mentrus yn cymharu â'i ddymuniadau a cynlluniau ar dy gyfer yn y byd hwn? Falle dy fod yn disgyn ar ochr arall y sbectrwm ac yn stryglo i fynd tu hwnt i dy ofn o fethiant, neu dwyt ti ddim yn meddwl bod Duw yn poeni fawr ddim am dy ymdrechion a dymuniadau.


Waeth bynnag ble wyt ti'n gosod dy hun, sylweddola bod Duw yn poeni amdanat ti. Mae e yna'n barod i wneud gymaint mwy nag y gallwn ofyn neu hyd yn oed ddychmygu oherwydd bod ei gynlluniau'n llawer gwell na'n cynlluniau ni. Er mod i'n gwybod hyn, dw i dal i gael fy hun dw i'n dal i gael fy hun yn cyfyngu ar Dduw gyda fy meddwl bach a byw'n ddiogel. I fod yn onest, mae'n chwithig a dw i ddim yn hoffi cyfaddef hynny. Falle dy fod yn meddwl, “Sut mae un o sylfaenwyr Ap Beibl YouVersion yn meddwl yn rhy fach?” Wel, dyna'r enghraifft berffaith rydw i'n mynd yn ôl ati yn barhaus.


Pan ddechreuon ni YouVersion doedd gynnon ni DDIM syniad am beth oedd yn bosibl neu beth oedd gan Dduw ar gyfer y syniad bach hwn a gwefan eithaf clogyrnaidd. O'r syniad oedd heb fawr o siap, na strwythur, i nawr, dŷn ni'n cael gweld pob gwlad yn ymgysylltu â'r Beibl pob eiliad o'r dydd ar ffonau, tabledi. cyfrifiaduron a teclynnau clyfar arall. Clod a mawl a fo i Dduw! Wrth fod yn ufudd dros amser sylweddolon ni fod Duw eisiau ei fendithio a rhoi egni a llwyddiant iddo. Dyma ond un peth sy'n ein hatgoffa fod Duw'n barod i fendithio ein ufudd-dod, ymrwymiad a chamu allan mewn ffydd pan fyddwn yn ceisio ei anrhydeddu.


Dim ond un enghraifft yw YouVersion. Ble roedd gen i ddiffyg ffydd ar un adeg, nawr mae gen i'r fendith o allu edrych nôl a sylweddoli gymaint o'm ymdrechion mae Duw wedi'u bendithio. Beth amdanat ti? Ble wyt ti ddim yn mentro? Os nad wyt ti'n siŵr, falle y dylet ti ofyn i ti dy hun ble mae gen ti ofyn methu? Falle mai ofyn cael dy wrthod neu ofn annigonolrwydd neu dy fod yn annheilwng. Mae'r ofnau hyn yn gallu ein gyrru i chwarae'n saff gan gyfyngu ar allu Duw i weithio trwyddo ni.


Mae bod â disgwyliadau mentrus ar gyfer beth all ac y bydd Duw'n ei wneud yn ran sylfaenol o gynyddu dy arweinyddiaeth. Gosod nodau sydd tu hwnt i bosibilrwydd am ein bod yn disgwyl i Dduw fod yna, yw bod â disgwyliadau mentrus. Mae credu ac arwain tuag at y dyfodol mewn ffydd yn rhan o'r daith rydyn ni arni fel dilynwyr Crist.


Yn ystod pob munud o bob dydd dŷn ni'n cael dewis beth dŷn ni'n feddwl a chredu. Mae ein meddyliau'n ddewis felly gad i ni eu dewis gyda doethineb a dewis beth sy'n anrhydeddu Duw. Wrth i ti ddechrau darllen y darlleniad heddiw dw i'n dy herio i brosesu stori Jonathan a'r gwas oedd yn cludo'i arfau. Dechreua gael synnwyr o'u disgwyliadau mentrus. Dydy ein penderfyniadau dyddiol ddim yn debyg o gwbl i rai Jonathan, ond fe all ein ffydd a'n meddylfryd fod felly.


O Dduw, siarada â fi nawr wrth imi agor dy Air. Gad i'r geiriau hyn dreiddio ddyfyn i'm henaid a rho imi ffydd a dewrder sy'n dy anrhydeddu a'th ogoneddu di.


Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Scaling Leadership with Biblical Wisdom

Mae cynyddu ein harweinyddiaeth yn hollbwysig heddiw. Rhaid i ni ehangu, chwyddo, datblygu ein harweinyddiaeth i addasu i'n hamgylchedd sy'n newid yn barhaus. Technoleg sy'n esblygu'n gyflym, newid dynameg gweithwyr / tî...

More

Hoffem ddiolch i Terry Storch am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://terrystorch.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd