Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb BeiblaiddSampl

Scaling Leadership with Biblical Wisdom

DYDD 1 O 8

Doethineb Beiblaidd


Iaith ddyrys ac anodd yw Saesneg. I'r rhai hynny sy'n siarad Saesneg yn unig dŷn nhw ddim yn amgyffred pa mor anodd yw hi fel iaith. Er enghraifft dyna'r gair Saesneg 'scale' neu 'scaling'. Wrth fynd ar y we i Dictionary.com, fe weli di bod gan y ddau air hyn nifer o ystyron.


'scale'


enw


-pob un o'r platiau corniog neu esgyrnog bach tenau sy'n amddiffyn croen pysgod ac ymlusgiaid, gan orgyffwrdd â'i gilydd.


berf


-cymryd pwysau penodol


Roedd rhai dynion yn cynyddu llai na nawdeg pwys."


berf


- dringo i fyny neu dros (rywbeth uchel a serth)


Dringodd lladron ffens wyth droedfedd."


Mae rheiny i gyd yn ddiffiniadau cywir o 'scale' a 'scaling' ond nid rhain yw'r diffiniadau y bydda i'n eu defnyddio pan yn siarad am Gynyddu Arweinyddiaeth.
Roedd y diffiniad gorau wnes i ddod ar ei draws o Eiriadur MacMillan pan edrychais ar yr ymadrodd "scale up"


Bydda i'n defnyddio'r diffiniad hwn yn y Cynllun Beibl hwn:


-i gynyddu maint, swm rywbeth yn sylweddol nac oedd o'r blaen


-i wneud rywbeth yn fwy, ehangu, chwyddo, macsimeiddio


"Mae archeb o'r maint hwn yn golygu cynyddu y nifer gynhyrchir."


Fel dilynwyr Iesu mae cynyddu ein harweinyddiaeth drwy ddefnyddio doethineb y Beibl yn gritigol ac angenrheidiol yn yr oes bresennol. Rhaid i ni ehangu, chwyddo, macsimeiddio a thyfu maint ein harweinyddiaeth i lywio drwy'r amgylchedd dŷn ni'n ei wynebu. Mae technoleg sy'n esblygu'n gyflym, dynameg gweithwyr a thîm sy'n newid yn barhaus, ac economeg fyd-eang symudol yw rhai o'r materion y byddwn yn dod ar eu traws a bydd cymhwyso gwirioneddau Beiblaidd yn dyfnhau ein mewnwelediad.


Ond nid ar gyfer y gweithle mae cynyddu ein harweinyddiaeth yn unig. Rhaid i ni gynyddu ein harweinyddiaeth gartref hefyd gyda'n teuluoedd ac yn ein perthnasoedd hefyd. Efallai fod y peth ychydig yn eithaf ond dw i'n credu bod y syniad iawn gan yr hyfforddwr Holtz.


"Yn y byd hwn, dych chi naill ai'n tyfu, neu dych chi'n marw, felly symudwch ymlaen a thyfu." - Lou Holtz


Dŷn ni una ai'n tyfu neu marw. Dŷn ni un ai'n mynd i gynyddu'n arweinyddiaeth neu ei leihau. Falle nawr yw'r amser gorau i fod yn onest - ni fydd cynyddu'n arweinyddiaeth yn broses hawdd. Bydd gwneud y buddsoddiad hwn a dod â bwriad i'r math hwn o dwf yn ein rhoi mewn sefyllfaoedd heriol a bydd yn ein gwthio'n llwyr o'n parthau cysurus. Ond os na wnawn ni, fyddwn ni ddim yn cyrraedd holl botensial yr hyn sydd gan Dduw ar y gweill i ni.


"Os dŷn ni'n tyfu dŷn ni wastad yn mynd i fod tu allan i'n parthau cysurus." - John Maxwell


Dros y 25 mlynedd diwethaf fel dilynwr Crist, arweinydd gweinidogaeth a sylfaenydd, ac entrepreneur busnes, rwyf wedi gweld bod y Beibl yn drymlwythog o straeon, enghreifftiau, a chyngor ymarferol sy'n rhoi cymaint o werth i ni. Mae'n amser i ni herio ein hunain drwy ddefnyddio Gair Duw i wthio'n erbyn ein parthau cysurus. Wyt ti'n barod i gynyddu dy arweinyddiaeth? Os felly, bydd Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb Beiblaiddi wneud hynny'n union.


Gwyrdd yw'r lliw cyffredinol sy'n rhoi'r hawl i fynd. Wrth i ti gychwyn ar y daith hon cymer eiliad i weddïo gweddi syml.


O Dduw, dw i'n sefyll yma'n barod i glywed gen ti. Helpa fi i glywed yr hyn ti'n ddweud fel nad ydw 'n methu'r hy rwyt eisiau ei ddatgelu i mi ar y daith hon.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Scaling Leadership with Biblical Wisdom

Mae cynyddu ein harweinyddiaeth yn hollbwysig heddiw. Rhaid i ni ehangu, chwyddo, datblygu ein harweinyddiaeth i addasu i'n hamgylchedd sy'n newid yn barhaus. Technoleg sy'n esblygu'n gyflym, newid dynameg gweithwyr / tî...

More

Hoffem ddiolch i Terry Storch am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://terrystorch.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd