Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Chwe Cam i dy Arweinyddiaeth OrauSampl

Six Steps To Your Best Leadership

DYDD 7 O 7

Nawr, Gwna Fe



Paid gorffen y cynllun Beibl hwn heb wneud rywbeth amdano fe. Mae arweinydd yn gweithredu ar wybodaeth sy'n arwain at drawsffurfio. Beth yn union yw dy gam nesaf? Mae Duw yn barod i wneud cymaint mwy na fyddet ti fyth yn gallu ei ofyn, ei feddwl, ei ddychmygu, drwy ei rym sydd ar waith.




  1. Disgyblaeth i Ddechrau:Pan wyt ti'n gwybod pwy wyt ti, neu beth rwyt am fod, byddi'n gwybod beth i'w wneud. Ar sail pwy rwyt am fod, pa ddisgyblaeth wyt ti angen ei ddechrau?

  2. Yr hyder i Stopio: Ar sail pwy rwyt am fod, beth sydd ei angen arnat i stopio? Paid meddwl yn unig am bethau negatif. Falle boid rhaid iti stopio gwneud rywbeth pwysig a'i roi i rywun arall.

  3. Person i'w Awdurdodi: Pwy fyddi di'n ei awdurdodi? Paid bod fel caead i'r bobl rwyt yn eu harwain. Falle y byddi di'n awdurdodi rywun i wneud rywbeth pwysig roedd gen ti'r hyder i stopio ei wneud.
  4. .
  5. System i'w Greu|:Ble wyt ti'n gweld tensiwn? Yn drefniadol, ble mae'r problemau? Pa system sydd raid i ti ei greu i gael y canlyniad rwyt ti ei eisiau?

  6. Perthynas i'w roi ar Waith: Ar sail pwy rwyt ti am fod, pwy sydd gen ti angen ei gwrdd? Pa berthynas rwyt eisiau ei roi ar waith? Fe allet ti fod un berthynas i ffwrdd o newid cwrs dy dynged.

  7. Risg rwyt angen ei Gymryd:Ar sail pwy rwyt am fod a'i wneud, pa risg wyt ti angen ei gymryd\/ Os byddi'n disgwyl nes dy fod yn barod byddi wastad yn hwyr.


Yn olaf, bydd pwy wnaeth Duw i ti fod. Fydde'n well gan bobl ddilyn arweinydd sy'n real yn hytrach na arweinydd wastad yn iawn.



Siarada â Duw: Dduw, dw i'n dy drystio i wneud mwy na faswn i fyth yn allu ei wneud yn fy nerth fy hun. A wnei di roi i mi'r doethineb, hyder, a nerth i gymryd y cam nesaf?



Cymer olwg ar fy neges Arferion am fwy o fomentwm.


Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Six Steps To Your Best Leadership

Wyt ti'n barod i dyfu fel arweinydd? Mae Caraig Groeschel yn dadbacio chwe cam Beiblaidd gall unrhyw un ei gymryd i fod yn arweinydd gwell. Tyrd o hyd i ddisgyblaeth i ddechrau, hyder i stopio, a pherson i'w awdurdodi, s...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a LifeChurch am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd