Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Chwe Cam i dy Arweinyddiaeth OrauSampl

Six Steps To Your Best Leadership

DYDD 3 O 7

Person i'w Awdurdodi

pwy rwyt

Un o'r pethau cyntaf wnaeth Iesu yn ei dair blynedd o waith cyhoeddus ar y ddaear oedd dod o hyd i bobl i'w hawdurdodi. Daeth o hyd i 12. Ond, nid Iesu wyt ti, felly dechreua o bosib gydag un?



Os na fyddi di'n awdurdodi eraill, dyma addewid - byddi di fel caead ar y gwaith rwyt ti'n ei wneud. Dydy dy waith ddim yn llwyddo drwy beth wyt ti'n ei wneud, ond drwy pwy rwyt ti'n eI awdurdodi.



Roedd Iesu, Mab Duw, yn dibynnu ar bobl i wneud pethau, a dŷn ni'n annhebygol o adeiladu rhywbeth mawr ein hunain. Adeilada pobl av ar y cyd bydd rhywbeth mawr yn cael ei adeiladu.



Ddoe. siaradon ni am yr hyder i stopio.Falle, bydd rhaid i ti hyd yn oed stopio tasgau rwyt ti'n eu mwynhau. Os oes gen ti adroddiad, tasg, neu broject ar y gweill, ystyria ei ddirprwyo e. Os all rywun wneud rywbeth 50 y cant gystal a thi, gyda'r potensial i ddatblygu, dirprwya e a gwylia hwy'n tyfu.



Cam cyntaf mawr Iesu oedd dod o hyd i bobl i'w hawdurdodi a'i weithred olaf ar y ddaear oedd dirprwyo peth o'i waith mwyaf pwysig i'w ddilynwyr. Fel arfer byddwn yn ei alw yn Y Comisiwn Mawr, ac o edrych yn ddiweddar, mae e'n gweithio.



Beth elli di ei roi i ffwrdd? I bwy wyt ti'n gallu ei roi e\? Sut wnei di eu datblygu a'u hyfforddi?



Pan fyddi'n awdurdodi'r pobl cywir, mae nhw'n teimlo o werth. mae nhw'n tyfu yn eu harweiniad, gelli ffocysu i gyfeiriads arall, a bydd beth bynnag rwyt yn ei arwain yn cryfhau.



Gelli gael rheolaeth dros dy waith, neu gelli gael tyfiant, ond fedri di ddim cael y ddau. Pwy fyddi di'n eu hawdurdodi?



Siarada â Duw:Dduw, diolch i ti sm fy nhrystio i arwain pobl. Pwy ddylai gael eu hawdurdodi? Beth ddylwn i fod yn eu hawdurdodi i wneud?



Am fwy fel hyn dos i edrych ar fy mhodlediad ar penodau 16 ac 17 am fwy.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Six Steps To Your Best Leadership

Wyt ti'n barod i dyfu fel arweinydd? Mae Caraig Groeschel yn dadbacio chwe cam Beiblaidd gall unrhyw un ei gymryd i fod yn arweinydd gwell. Tyrd o hyd i ddisgyblaeth i ddechrau, hyder i stopio, a pherson i'w awdurdodi, s...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a LifeChurch am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd