Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Chwe Cam i dy Arweinyddiaeth OrauSampl

Six Steps To Your Best Leadership

DYDD 4 O 7

Syustem i'w Greu



Meddylia am broblem yn y gwaith, yn dy dîm, yn y cartref, neu yn dy fywyd, sydd yn dod nôl dro ar ôl tro. Fe allet ti feddwl fod gen ti broblem rheoli ansawdd, gwasanaeth cwsmeriaid, pobl anghywir, neu broblem cartref blêr, ond mae fwy na thebyg oherwydd problem system.



Fel arweinyddion, ein tuedd i'w rhoi'r bai ar y bobl nes lawr y gadwyn am ein problemau pan mae'r problem go iawn yn y system nes fyny'r gadwyn.



Falle dy fos yn meddwl, "wel, does gynnon ni ddim systemau mewn gwirionedd." neu "dŷn ni'nb fwy synhwyrol, does gynnon ni ddim angen systemau." Gyda pharch, mae gynnoch chi systemau. Dy system, efallai, yw dechrau'r diwrnod yn darllen ebyst, delio efo problemau wrth iddyn nhw ddod i me, neu wn, ac yna mynd adre'n dan straen. Ond mae hynny'n system.



Mae gen ti systemau drwy fwriad neu wedi'u rhagosod, felly un ffordd newu'r llall mae gen to ti nhw. Mae'r systemau sydd gen ti o ganlyniad i beth rwyt wedi'i greu, neu ei oddef. Felly, os wyt ti eisiau canlyniad gwell, dechreua drwy greu system well.



Ym mhennod cyntaf y Beibl roedd y byd yn anhrefn gwag, a dwedodd Duw. "Dw i eisiau golau." Yna aeth yn ei flaen i wahanu'r dydd oddi wrth y nos, y ddaear o'r awyr, tîr o'r dŵr, adar o'r pysgod, ac yn y blaen. Falle dy fos wedi sylwi fod Duw yn delio gyda systemau penodol gyda'i gilydd ac ddim yn symud ymlaen nes ei fod yn meddwl ei fod yn dda. Yn olaf, creodd Dduw y ddynoliaeth a rhoi cyfarwyddiadau iddyn nhw ofalu am y cwbl - gam gynnwys system o orffwys unwaith yr wythnos.



Cafodd y greadigaeth ei dechrau gyda system. Mse'r apostol Paul yn galw'r eglwys yn un corff gyda llawer o aelodau, y cwbl yn gweithredu gyda phwrpasau bwriadol a phwysig. Mae hynny'n system. System gyda'r arweinydd pennaf - Iesu.



Fel y byd, fel yr eglwys, fel dy gorff dy hun, mae dy fywyd yn llawn systemau. Dydy systemau iach ddim yn digwydd ar hap. Mae nhw wedi'u creu ar bwrpas.



Pa system sydd raid i t iei greu i gael y canlyniadau rwyt ti eu heisiau?



Ystyria:Ydw i wedi gosod Iesu yn arweinydd fy mhrif system - fy mywyd? Pa densiynau ydw i'n eu hwynebu, a pha systemau fydde'n eu datrys\/


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Six Steps To Your Best Leadership

Wyt ti'n barod i dyfu fel arweinydd? Mae Caraig Groeschel yn dadbacio chwe cam Beiblaidd gall unrhyw un ei gymryd i fod yn arweinydd gwell. Tyrd o hyd i ddisgyblaeth i ddechrau, hyder i stopio, a pherson i'w awdurdodi, s...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a LifeChurch am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd