Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Chwe Cam i dy Arweinyddiaeth OrauSampl

Six Steps To Your Best Leadership

DYDD 1 O 7

Disgyblaeth i Ddechrau

Byddai fy ngwraig Amy, fy mhlant, a'm staff yn dweud wrthyt ti bod meithrin arweinwyr yn rywbeth dw i'n caru ei wneud, mae rhan o pwy ydw i. Dw i'n credu pan mae'r arweinydd yn gwella, ame pawb yn gwella.



Dyma gwestiwn i'w ystyried: "Ydy arwain pobl yn rywbeth dw i am wneud yn unig

, neu ydy e'n rhan o pwy ydw i?"



Mae dy ateb o bwys oherwydd mae'r rhan fwyaf o arweinwyr yn llenwi eu cynlluniau datblygu gyda amcanion i'w cyflawni. "Dw i eisiau gwneud mwy gyda fy mhlant, fe wna i weithredoedd caredig ar hap i fy ngwraig, mi wna i fwy i awdurdodi'r pobl rwy'n eu harwain." Fodd bynnag mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud amcanion pwy: "Fe fydda i'n fam amyneddgar sy'n caru'n ddyfn, fe fydda i'n ŵr sy'n cefnogi fy ngwraig a'i charu'n dda, fe fydda i yn reolwr sy'n arwain drwy esiampl."



Mae'r arweinwyr mwyaf dylanwadol yn dechrau gyda'r pwy ac yn gadael i'r gweithredu lifo o'r fan yna.



Hyd yn oed o ran safonau seciwlar, Iesu, heb os nac oni bai, yw'r arweinydd mwyaf dylanwadol a fu byw erioed. Bu'n gweithio yn y gymdeithas am dair mlynedd yn unig, ac yn yr amser hynny ennill degau o filoedd o ddilynwyr. Ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r llyfr sydd wedi gwerthu'r mwyaf erioed yn adrodd hanes ei fywyd, ac mae bgiliynau o bobl ar draws y byd wedi cyflwyno eu bywydau yn gyfan gwbl i'w ddilyn e.



Seithwaith, yn efengyl Ioan, cyhoeddodd Iesu ddatganiadau pwy. Wrth i ti eu darllen heddiw, byddi'n sylwi fod pob un yn llifo'n berffaith i beth wnaeth e, ac yn parhau i'w wneud yn ein byd.



Pan fyddi'n gwybod pwywyt ti, byddi'n gwybod beth i'w wneud. Yn fwy penodol allet ti ofyn i ti dy hun, "beth fyddai'r person dw i am fod yn ei wneud/" Beth bynnag y byddi'n penderfynu, dw i'n awgrymu dy fod yn dechrau'n fach. Mae disgyblaethau cyson yn arwain i ganlyniadau mawr dros amser.



Os wyt ti eisiau bod yn arweinydd sy'n gofalu, falle y byddi'n sgwennu un nodyn o anogaeth y dydd, os wyt am berson sy'n drefnus, dechreua, falle, drwy wneud dy wely, os wyt am fod yn arweinydd sy'n dilyn calon Duw, byddi di, mwy na thebyg, am ddechrau pob bore yn siarad gydag e. Gwna yr hynh sy'n dy arwain i ddod y pwy rwyt am ei fod fel arweinydd.



Siarada gyda Duw: Dduw, ti wnaeth fi, Rwyt ti'n fy adnabod. Wnei di roi i mi y geiriau i wybod pwy ydw i a'r cryfder i wybod beth i'w wneud.



s://www.craiggroeschel.com/leadershippodcast?utm_campaign=CGLPBiblePlan&utm_source=bibleplan">Am fwy fel hyn dos i edrych ar fy mhodlediad arweinydd.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Six Steps To Your Best Leadership

Wyt ti'n barod i dyfu fel arweinydd? Mae Caraig Groeschel yn dadbacio chwe cam Beiblaidd gall unrhyw un ei gymryd i fod yn arweinydd gwell. Tyrd o hyd i ddisgyblaeth i ddechrau, hyder i stopio, a pherson i'w awdurdodi, s...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a LifeChurch am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd