Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 5 O 28

Darlleniad: Luc 9:57-62 Dim edrych yn ôl Wrth i ti gyflwyno dy fywyd i Iesu Grist gelli fod yn sicr y byddi’n dod ar draws llawer o bethau fydd yn ceisio dy rwystro rhag byw bywyd o ymroddiad llwyr ac o ufudd-dod iddo. Yn y stori yma heddiw, da ni’n gweld tri dyn oedd a rhyw awydd i ddilyn Iesu, ond roedd rhywbeth yn dod rhyngddyn nhw â’r alwad am ymroddiad llwyr. Cynigiodd y dyn cyntaf ddilyn yr Arglwydd i ble bynnag y byddai yn mynd ond pan glywodd nad oedd gan lesu le i gysgu, doedd dim sôn amdano wedyn! Galwodd lesu yr ail ddyn i waith arbennig, ond teimlai hwnnw fod rhaid iddo wneud rhywbeth arall cyn bod yn fodlon cymryd y cam. Yna’r trydydd dyn – er ei fod yn cynnig ei fywyd i Iesu, roedd yn mynnu cael cyfle i ffarwelio â’i deulu gyntaf. Dydy lesu ddim am i ni anwybyddu ein teuluoedd, na throi cefn ar gyfrifoldebau, ond pan fo’n dod i ryw bwynt arbennig, yna rhaid iddo fo gael y lle cyntaf ar restr ein blaenoriaethau. Da ni’n yn byw mewn cyfnod sy’n Ilawn problemau oedd ddim yn bodoli o’r blaen, ac fe ddisgwylir pethau mawr gan ddilynwyr Crist. Wedi rhoi dy law ar yr aradr, paid ag edrych yn ôl; cadw dy lygaid bob amser ar dy Feistr o’th flaen. Rho’r lle cyntaf iddo fo yn dy fywyd, a beth bynnag sy’n digwydd heddiw, gwna benderfyniad i fynd yn dy flaen gyda Iesu drwy’r cwbl. Wrth ddod i'w nabod fel Achubwr ac Arglwydd byddi’n gweld nad oes dim byd sy’n cymharu hefo lesu. Fo ydy capten dy iachawdwriaeth ac Achubwr dy enaid. BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defny...

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd