Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 4 O 28

Darlleniad: Luc 10:25-32 Cyfri’r gost Pan oedd Iesu yma ar y ddaear roedd yn atgoffa pobl yn gyson beth fyddai cost bod yn ddisgybl iddo. Wnaeth o rioed ddweud, “Dilyn fi, a fydd dim rhaid i ti wynebu unrhyw siom nac anhawster”. Wnaeth o ddim dweud chwaith “Tyrd gyda mi, a chei di byth unrhyw broblem eto”. Mae’n sôn yma am ddyn sy’n bwriadu adeiladu tŵr ond cyn dechrau ar y gwaith mae’n eistedd i lawr i gyfri’r gost. Wyt ti wedi eistedd i lawr erioed i gyfri’r gost o fod yn ddisgybl i lesu Grist? Gad i ni ystyried gyda’n gilydd beth mae’n ei hawlio: Mae eisiau ein cariad ni - y teimlad cryf yna o ddiolch a’r ymateb cadarnhaol mae’n ei haeddu’n llawn. Cofia ei fod wedi marw ar groes Calfaria dros ein pechodau ni. Mae eisiau ein ffyddlondeb ni - y parch dwfn yna, a’r parodrwydd llwyr i ufuddhau iddo. Mae eisiau ein bywyd ni - ein holl egni a’r holl bosibiliadau mae’n bywyd yn ei gynnig. Pam mae’n hawlio hyn i gyd? Am ei fod o (lesu) wedi dod i’r byd i adeiladu ei Deyrnas. Nid Teyrnas o ddaearyddol, ond teyrnasu’n ymarferol yng nghalonnau ei bobl. I adeiladu’r fath Deyrnas mae’n rhaid iddo gael pobl yn hen ac yn ifanc sy’n fodlon rhoi’r cwbl iddo. Wyt ti’n fodlon rhoi dy gariad, dy ffyddlondeb, a’th fywyd i gyd i Iesu Grist heddiw? Os nad wyt ti wedi cymryd y cam yn barod, pam wnei di ddim cymryd cam o ffydd heddiw, a gweddïo fel yma: Ydw, Arglwydd lesu, cymer fy mywyd i, a’i ddefnyddio fel y gweli di’n dda. Dw i am fod yn wir ddisgybl i ti heddiw, a phob dydd weddill fy mywyd. BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defny...

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd