Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 6 O 28

Darlleniad: Mathew 16:24-26 Codi’r Groes Mae ‘codi’r groes’ yn syniad mae Ilawer o bobl yn ei gael yn anodd i’w ddeall, felly gwna i drio esbonio’n hollol beth y mae’r term yn ei olygu. Yn nyddiau lesu golygai croes un peth yn unig - marwolaeth. Pryd bynnag roedd croes yn cael ei chodi golygai fod rhywun yn mynd i farw yn y modd mwyaf creulon posibl - sef cael ei hoelio ar bren i wynebu marwolaeth araf a phoenus. Ystyr ‘codi’r groes’ i ni heddiw yw ein bod yn fodlon ‘marw’ i’n hunanoldeb, a pheidio â bod yn hunan-ganolog. Gad i ni edrych ar enghraifft benodol. Efallai nad yw bod yn Gristion yn beth poblogaidd gyda dy ffrindiau yn yr ysgol. Efallai eu bod yn gwneud hwyl am dy ben ac yn gneud yn fach o enw lesu. Fe glywn rhyw lais bach yn dweud y tu mewn i ni “paid â gadael i neb wybod dy fod yn perthyn i Grist. Cuddia’r ffaith dy fod yn credu yn lesu”, ac yn y blaen. ‘Codi’r groes’ yw gwadu’r awydd yma yn ein calon i gael ein derbyn a bod yn fodlon cymryd ein gwawdio gan eraill er mwyn yr Arglwydd. Pob tro y gwnei di benderfyniad i roi lesu yn gyntaf, a rhoi’r ail le i’r hyn wyt ti dy hun eisiau, mae Duw yn ei gariad yn rhoi nerth arbennig i ti. Petaet ti’n gwneud penderfyniad heddiw i ‘godi’r groes’, gwadu’r hunan a rhoi’r lle cyntaf i Dduw, rwy’n addo i ti y gwnei di ddarganfod rhywbeth gwefreiddiol, sef y llawenydd o fod yn debycach i lesu. Gweddia fel hyn: Annwyl Arglwydd lesu, rwy’n hiraethu am gael bod yn gryf ac yn ddewr yn fy nhystiolaeth i ti. Nertha fi i wynebu’r her yma heddiw gan wadu fy mhleser hunanol fy hun er mwyn i ti gael dy glodfori ynof fi drwy’r dydd. Amen. BDGI - addasiad Alun Tudur
Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defny...

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd